Enillydd Crufts, Knopa, y Scottish Terrier, gyda'i berchennog Rebecca Cross
Mae un o berchnogion ci, yr honnir gafodd ei wenwyno yn sioe gwn enwog Crufts, wedi dweud eu bod wedi colli “aelod o’r teulu”.
Bu farw’r Irish Setter tair oed, o’r enw Jagger, ar ôl dychwelyd i Wlad Belg o’r sioe yn yr NEC yn Birmingham.
Daeth Jagger yn ail yn ei ddosbarth ddydd Iau. Roedd yn berchen i Aleksandra Lauwers o Wlad Belg a bridiwr yng Nghaerlŷr, Dee Milligan-Bott.
Dywedodd Dee Milligan-Bott bod marwolaeth y ci yn “drosedd erchyll”.
Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywedodd Aleksandra Lauwers fod darnau o gig eidion, a oedd yn cynnwys gwenwyn, wedi cael eu darganfod yn stumog y ci yn ystod archwiliad post mortem.
Honnodd hefyd fod profion yn dangos fod y ci wedi bwyta’r cig tra’r oedd “ar ei fainc yn Crufts.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Kennel Club, sy’n rhedeg Crufts, eu bod yn aros am adroddiad tocsicoleg gan yr heddlu o Wlad Belg i daflu goleuni ar farwolaeth Jagger.
Wrth siarad â gwefan DogsWorld ddoe, dywedodd Dee Milligan-Bott nad oedd hi’n credu mai Jagger oedd i fod i gael ei dargedu.
Ychwanegodd bod digwyddiadau eraill wedi digwydd yn y sioe yn y gorffennol – gan gynnwys rhywun yn rhyddhau un o’i chŵn oddi ar ei dennyn wnaeth arwain at y ci yn mynd ar goll.
Daeth sioe Crufts i ben ddoe, gyda’r Scottish Terrier Knopa yn ennill y teitl Gorau yn y Sioe.
Cafodd y gwobrau eu tarfu hefyd gan brotestiwr o’r grŵp hawliau anifeiliaid, Peta.