Cai Williams (llun hyrwyddo)
Bydd Cymro o Flaenafon yn gobeithio ei fod wedi gwneud digon o argraff ar Tom Jones i aros yn The Voice heno, wrth i’r gystadleuaeth ganu ddychwelyd i’r teledu.
Dim ond o drwch blewyn y llwyddodd Cai Williams i basio rownd gyntaf y rhaglen ganu ar ôl i Syr Tom daro’r botwm coch a throi rownd eiliadau cyn iddo orffen canu – yr unig un o’r pedwar mentor i wneud hynny.
Ond ers hynny mae’r canwr 34 oed, sydd yn adnabyddus yn lleol am ei sioe ganu, wedi cael y cyfle i fanteisio ar ddysgu oddi wrth un o gewri cerddorol y Cymoedd.
“Mae e wedi bod yn surreal, popeth mor wallgof i fod yn onest [ers cael ei ddewis],” cyfaddefodd Cai Williams wrth golwg360.
“Dim ond eisiau bod ar y rhaglen oeddwn i ar y dechrau, ond pan drodd Syr Tom rownd fe newidiodd popeth.
“Fi wedi bod yn y busnes ers sbel, ond mae cael y gydnabyddiaeth yna o’r diwedd yn wych!
“Fi’n ffan o gerddoriaeth Will a Rita hefyd, felly bydden ni wedi bod yn hapus gydag unrhyw un ohonyn nhw.
“Ond fi wedi cael profiadau tebyg i Tom, yn perfformio’n unigol yn llawer o’r un llefydd mae e wedi perfformio.”
Dau yn mynd benben
Yn y rownd nesaf heno fe fydd Cai Williams yn mynd benben ag un arall o’r cantorion yn nhîm Tom Jones, Daniel Duke, gyda’r mentor yn gorfod dewis pa un i roi drwyddo i’r rownd nesaf a pha un i anfon gartref.
Mae’r gân fydd Cai Williams yn ei ganu yn gyfrinach o hyd, ond fe awgrymodd wrth golwg360 ei fod wedi gorfod mentro i dir ychydig yn anghyfarwydd iddo.
“Dyw e ddim beth fydd pawb yn disgwyl. Fi’n neud lot o power ballads a chaneuon West End gyda fy sioe i, ond fe allai ddweud wrthoch chi fod e ddim yn power ballad,” datgelodd Cai Williams.
“Bydd e’n rhywbeth fydd pobl yn gwrando arni a mynd ‘waw, bydden i ddim wedi rhoi’r gân yna gyda’r person yna’.
“Mae e wedi paru fi gyda rhywun sydd yn offerynnwr gwych, rhywun hollol wahanol i fi o ran llais a delwedd. Fe fydd e’n gân pop grêt.”
Os nad yw’n cael ei ddewis gan Tom Jones fe allai un o’r mentoriaid eraill – Will.i.am, Rita Ora neu Ricky Wilson – fanteisio ar y cyfle i’w achub.
Ond mae Cai Williams yn mynnu mai canolbwyntio ar blesio Syr Tom yn unig fydd e heno.
“Fi ddim yn meddwl yn bellach na hynny i fod yn onest, fi jyst yn mynd i fynd mas na a gwneud fy ngorau, plesio Syr Tom a’r rheiny sydd wedi helpu fi, a phlesio fy nheulu a’r gynulleidfa,” ychwanegodd y canwr.
Delwedd drawiadol
Mae gan Cai Williams edrychiad trawiadol ac mae’n cyfaddef ei hun bod delwedd yn bwysig iddo – dim syndod, o ystyried ei fod hefyd yn fodel.
Mae’n mynnu fodd bynnag fod hynny’n rhan bwysig o’i berfformiadau canu ar y llwyfan, er yr eironi wrth gwrs bod Tom Jones ddim wedi gweld ei wyneb cyn troi rownd ar The Voice a’i ddewis i fod ar ei dîm.
“Fe ddywedodd e [Tom Jones] wrtha i fod gen i’r llais pwerus yna sy’n sefyll mas, ond hefyd mae gen i’r ddelwedd yna, ac mae angen i fi gadw ar y trywydd yna o fod yn wahanol a gosod fy safonau’n uchel,” meddai Cai Williams.
Does gan y canwr addawol ddim diffyg hunanhyder, fodd bynnag – gan ddisgrifio ei hun fel un o’r goreuon yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Bydden i’n dweud mod i’n un o’r cantorion gorau yng Nghymru i fod yn onest, fi wastad wedi credu hynny er mod i’n berson gyda fy nhraed ar y ddaear,” meddai Cai Williams.
“Ond fi ymysg pobl mor dalentog yma ar y rhaglen yma, felly mae’r ffaith bod The Voice a Tom Jones wedi adnabod y dalent, y llais, y potensial yna sydd gen i, fod gen i rywbeth gwahanol, yn wych.”
Bydd The Voice ar BBC One am 7.15yh nos Sadwrn 7 Mawrth.