Bu pobl ar lled a Cymru’n cael cip rhwng cloriau eu hoff lyfrau ddoe wrth i’r genedl ddathlu Diwrnod y Llyfr – ac wrth gwrs, roeddech chi i gyd hefyd ar Twitter yn rhannu’r profiad.

O wisgo fyny fel hoff gymeriadau llyfrau i fynd i’r ysgol, twrio am eich hoff lyfr i gael swatio lawr a’i ailddarllen, neu eistedd lawr gyda’ch cyfrol diweddaraf, fe aeth tipyn ohonoch chi i ysbryd y diwrnod.

Diolch i hashnod bachog Diwrnod y Llyfr Cymru ar Twitter, #hunlyfr, roedd modd gweld sut oedd pobl o bob cwr o Gymru’n nodi’r diwrnod.

Ac efallai bod rhai ohonoch chi hyd yn oed wedi cael syniad o ba lyfr i’w ddarllen nesaf!

Dyma ddetholiad golwg360 o’ch hunluniau chi gyda’ch llyfrau: