Hir yw pob aros, ond mae Tîm yr Wythnos Golwg360 nôl efo bang yr wythnos yma – wrth i fyfyrwyr Cymru baratoi i herio’i gilydd yng ngornest fwyaf y flwyddyn.

Timau chwaraeon Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, neu UMCB, sydd yn hawlio’r sylw wythnos yma wrth iddyn nhw deithio lawr ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-Golegol yn Aberystwyth dydd Sadwrn.

Ond cyn hynny fe fydd y timau’r prifysgolion yn herio’i gilydd ym mater bach y Gala Chwaraeon, gan obeithio achub y blaen ar y colegau eraill cyn i’r prif gystadlu ddigwydd dros y penwythnos.

‘Hollol hyderus’

Mi fydd UMCB yn mynd a phedwar tîm lawr ar gyfer y Gala Chwaraeon – timau bechgyn a merched ar gyfer y rygbi a phêl-droed.

Yn anffodus i’r timau pêl-rwyd maen nhw wedi gorfod canslo’r gystadleuaeth honno, felly mi fydd aelodau’r tîm hwnnw’n brysur yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr yn y campau eraill.

Ac fe fydd myfyrwyr Bangor yn gobeithio gwneud yn well na’r flwyddyn diwethaf – pan gipiodd ein Tîm yr Wythnos ni ar y pryd, Y Geltaidd Aberystwyth, gyntaf yn y chwaraeon.

“Da ni’n hollol hyderus,” meddai Anna Prysor Jones o UMCB wrth edrych ymlaen at y Gala Chwaraeon eleni. “Mae eisiau i bob un coleg arall fod ofn!

“Mae genna ni well timau rŵan na llynedd.”

Ac mae o leiaf un o dimau Bangor wedi bod yn ymarfer – dyma’r merched pêl-droed yn cyflwyno’i hunain ac edrych ymlaen at y gystadleuaeth:

Brwydro am y Rhyng-Gol

Ar ôl y chwaraeon fe fydd prifysgolion Cymru i gyd yn ymgynnull yn Aberystwyth dydd Sadwrn i gystadlu am yr Eisteddfod Ryng-Golegol, a Bangor yn gobeithio dod yn gyntaf am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ac fe fyddai hi hyd yn oed yn fwy arbennig iddyn nhw os ydyn nhw’n llwyddo i ennill ar dir Aberystwyth, o gofio’r elyniaeth gyfeillgar rhwng y ddwy brifysgol.

Bangor oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r Rhyng-Gol gael ei chynnal yn Aberystwyth nôl yn 2009, ac maen nhw’n swnio’n ddigon hyderus o ailadrodd y gamp honno!

“Mi ddylai Aber fod ofn, ‘da ni’n barod i fynd amdanyn nhw – bysa fo’n dda eu curo nhw eto, dyna ‘da ni’n obeithio beth bynnag!” ychwanegodd Anna Prysor Jones.