Rhan o glawr nofel enwoca' Kingsley Amis
Fe fydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn Abertawe ar Ebrill 15 er cof am yr awdur Kingsley Amis – un a gafodd ei gyhuddo yn ei ddydd o fod yn wrth-Gymreig.
Roedd Amis – awdur llyfrau megis ‘Lucky Jim’ a ‘The Old Devils’ – yn byw yn ardal Uplands ar ôl symud i’r ddinas i weithio yn 1949.
Bydd y plac yn cael ei osod ar adeilad 24 Y Gelli, ei dŷ cyntaf yn Abertawe.
‘Nawfed gorau’
Yn 2008, cafodd Amis ei enwi’r nawfed awdur gorau gwledydd Prydain ers 1945 gan bapur newydd y Times.
Ond roedd rhai o’i lyfrau yn cael eu gweld yn wawdlyd o Gymru a ‘The Old Devils’, yn enwedig, yn cynnwys un ymosodiad chwyrn ar genedlaetholwyr Cymreig.
Ym marn eraill, roedd wastad yn dweud ei fod yn hapus yng Nghymru ac fe seiliodd ei ddwy nofel orau yn y De.
Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei nofelau digri’ ond roedd hefyd yn fardd, ysgrifwr, beirniad llenyddol, awdur straeon byrion ac awdur ym maes bwyd a diod, blodeugerddi a ffuglen wyddonol.
Bu farw yn 1995 yn 73 oed.
‘Nawfed plac’
Ers 2013, mae placiau glas eisoes wedi’u gosod yn Abertawe i goffáu’r arloeswr tanwydd Syr William Grove, anturiaethwr pegwn y Gogledd, Edgar Evans, y nofelydd Ann of Swansea, y cerddor Pete Ham, y bardd Vernon Watkins, yr ymgyrchydd Emily Phipps, y cenhadwr Griffith John a’r bardd Dylan Thomas.
Wrth gyhoeddi’r plac glas, dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies: “Mae ei gysylltiadau ag Abertawe’n haeddu cydnabyddiaeth plac glas yma. Ef fydd y nawfed i dderbyn plac glas mewn dwy flynedd.”