Roedd hi’n ddeg o’r gloch yn nos, ac yn pigo bwrw glaw yma ar y penrhyn, wrth i mi faglu o amgylch y cae tatws lawr y lôn o’r tŷ, yn ceisio cadw signal 4G ar fy ffôn symudol. Cefais yr anrhydedd o gael fy ngwahodd i fod yn westai ar raglen ‘Clwb Caryl PJs’ ar BBC Radio Cymru… a do’n i ddim am adael i signal wael sbwylio’r cwbl!
Wnaeth y tywyllwch wneud darllen fy nodiadau yn lletchwith, roedd yn anodd i mi glywed Caryl oherwydd y cysylltiad, ac mi orchuddiwyd fy mhlimsols a rhimyn fy flares mewn mwd cefn gwlad go iawn.
Wnes i ramblo ymlaen gormod am fy newis cyntaf, gan fynd ffwrdd ar tangents amherthnasol. Wnes i ddim cael cyfle i ffangirl-io’r Kylie Gymraeg, na cheisio’i themtio hi i gyd-ganu ‘Canu roc a rôl’ hefo fi.
Ond mi wnes i gael sgwrs hyfryd hefo’r hogan o Ffynnongroyw. Llwyddais i hoelio’r cyflwyniad oedd gen i mewn golwg i’r ail lyfr, a des oddi ar y ffôn yn llawn egni a syniadau newydd.
Atgofion Hen W***
Fy newis cyntaf oedd hunangofiant David R. Edwards, ffryntman y band arloesol Datblygu. Bu tipyn o hwyl cyn mynd ‘ar yr awyr’ gan fod y teitl yn cynnwys gair anweddus, a wnes i lwyddo i osgoi ei ddweud ar lafar.
Be’ debyg dyma oedd gan Dave mewn golwg wrth ddewis y teitl – achosi ffwdan i’r sefydliad, tra hefyd yn ennyn gwên. Ond mae’r gair hwn hefyd fel sticer ‘Parental advisory – explicit content’ ar y clawr; mae iaith anweddus a thrafod di-flewyn-ar-dafod drwyddi draw.
Ni fydd hyn yn syndod i’r sawl sy’n gyfarwydd â’i waith… ond dim ond yn ddiweddar y des i’n ymwybodol ohono, a hynny trwy gyfaill wnes i gwrdd â nhw ar faes Eisteddfod Tregaron.
Yn ddiweddar, cyhoeddais bamffled o farddoniaeth am drawiadau, a fy hanes o gymryd meddyginiaeth wrth-drawiadau (anti-epileptic drugs), a pherodd hyn i fy nghyfaill gysylltu a gofyn, ‘Wyt ti’n ymwybodol o waith Dave Edwards?’
Wrth fynd ati i archwilio, dysgais fod Dave yn byw hefo epilepsi. Gwrandewais wedyn ar ‘Cân i Gymru’… ac, wrth i mi stryglo i goelio fy nghlustiau, trydarais amdani, a chefais linc i’r lyrics gan un o fy ffrindiau. Ia wir, roedd hwn yn rant, yn vitriol… ac yn teimlo’n debyg iawn i sawl un o fy ngherddi i, gan gynnwys rhai yn Trawiad | Seizure!
Teg dweud fy mod i bach yn obsessed hefo Datblygu ar hyn o bryd, ac yn enwedig Dave. Cyrhaeddodd Terfysgiaith 1982-2022 ddoe drwy’r post – albwm sy’n dathlu 40 mlynedd o Datblygu fel band… a gynlluniwyd cyn i Dave farw yn llawer iawn rhy ifanc ’nôl yn 2021.
Dwi wedi darfod darllen rhagarweiniad doniol Emyr Glyn Williams, ei ffrind a’r person wnaeth arwyddo Datblygu i Recordiau Ankst yn 1990. Dwi nawr wrthi’n pori’n llawen drwy’r pytiau o benodau gyflwynodd Dave, sy’n fy atgoffa i o sgetsys geiriol Jean Rhys yn The Left Bank, ac hefyd yn ei hunangofiant hithau Smile Please.
Wnaeth fy nghyfaill yrru’r linc iPlayer i mi o’r rhaglen Curadur gyda Pat Morgan, felly mae gen i hynny i edrych ymlaen ati. Dwi hefyd am wylio Control, y ffilm am Ian Curtis, ffryntman y band Joy Division, oedd hefyd yn byw hefo trawiadau, yn subversive ac, yn ôl Emyr, yn un o ddylanwadau Dave. Difyr.
‘Sgwn i oes gan S4C ffilm am ‘Datblygu’ ar y gweill? Fysa hynny’n epig!
Felly mae fy ymchwil greadigol ar drawiadau yn parhau, tu hwnt i’r pamffled cyhoeddedig. A bues i’n synfyfyrio hefo Caryl am y ffaith fy mod hefo teimlad, neu obaith efallai, fod rhyw nerth neu naws arbennig gennym ni sydd wedi ein cyffwrdd gan drawiadau.
Prin y gall slefrod môr y lleuad nofio
Fy ail lyfr oedd yr hyfryd Moon Jellyfish can barely swim gan Ness Owen. Person glan y môr yw Ness, a daw’r teitl o ffaith wyddonol am slefrod; ond efallai fod yna ryw awgrym o drosiad hefyd o’r cymhlethdod mae rhai ohonom yn ei deimlo ynglŷn a’n perthynas hefo’r iaith Gymraeg.
Cymraeg yw mamiaith Ness, ac yn wir Mamiaith oedd teitl ei chyfrol gyntaf o gerddi. Ac eto, mae’r ddwy gyfrol yn Saesneg yn bennaf gyda Cymraeg yma ac acw, megis:
…sing, mess with lyrics
(Come on Eileen, paid a dangos dy din) (tud.30)
Dechreuais ddychmygu sesiwn jamio hefo Dave a Ness – ew, am gael fod yn rhan o rywbeth felly!
A rhywle rhwng trafod y ddau fardd, a gwrando ar ‘Cân i Gymru’ yn chwarae, daeth yr awen… a rhyw rambl am fy nryswch a lletchwithdod ieithyddol.
Perthynoliaith
Ar ein gwefusau
ac yn ein calonnau,
ond nid o rheidrwydd
ar ein tudalennau.
Perthynas cymhleth;
ansicrwydd,
bregusrwydd.
Cymraeg rong
bratiog, tlws,
llawn direidi
a haerllugrwydd…
…a weithiau hefyd
geiriau geiriadurllyd.
Peri penbleth i’r
Cymry ‘cywir’
hwy sy’ fwy priodol,
ynghyd a’r dysgwyr
sy’ ‘di dysgu’r
Cymraeg safonol.
Da ni rhywle yn y canol
yn drifftian;
statws wan,
bron a diffodd
ond ddim cweit, achos
mi fydde ni wastad,
Yma. O. Hyd.