Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi tro pedol a “rhaglen amgen” i fynd i’r afael â’r ffordd y caiff cystadlaethau corawl eu cynnal.

Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r panelau canolog, y Pwyllgor Diwylliannol a’r Bwrdd Rheoli, ynghyd â chyfarfod gyda chynrychiolwyr y corau heno, mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi newid i’r rhaglen gystadlaethau ddrafft gafodd ei chyhoeddi ychydig wythnosau yn ôl.

Mae’r Bwrdd Rheoli wedi cymeradwyo rhaglen amgen yn dilyn cwynion, gyda rowndiau cyn-derfynol i’r cystadlaethau torfol yn cael eu hepgor am eleni.

Yn ôl yr Eisteddfod, “datrysiad un-tro ar gyfer eleni yn unig” yw’r newid hwn, ac maen nhw’n dweud y bydd y trefnwyr yn trafod y sefyllfa ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf “er mwyn sicrhau bod rhaglen 2024 yn cynnig chwarae teg i bawb ar draws pob disgyblaeth, boed yn grŵp torfol neu’n unigolyn”.

Penderfyniad ‘ddim yn unfrydol’

Doedd y penderfyniad i gytuno ar y datrysiad ddim yn unfrydol yn y Pwyllgor Diwylliannol, meddai’r Eisteddfod, gan ychwanegu y “gofynnwyd i hyn gael ei ddatgan wrth gyhoeddi’r datrysiad a’r rhaglen gystadlu newydd”.

Nos Fercher (Mai 17) yw’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i gystadlu eleni, ac mae’r Eisteddfod yn annog corau i gystadlu “er mwyn sicrhau bod gwledd o gystadlu i’w weld a’i glywed yn yr Eisteddfod eleni”.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Moduan rhwng Awst 5-12.

Bydd y rhaglen gystadlaethau’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mai 15), a bydd yr amseroedd i gyd yn ddibynnol ar niferoedd cystadleuwyr yn dilyn y dyddiad cau.

“Pam fod rhaid newid bob dim?”

Dyna un gri ar gyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod Genedlaethol, ar ôl eu newyddion eu bod nhw am addasu’r drefn gystadlu yn y brifwyl o fis Awst