Rhwystredigaeth ynglŷn â’r ffocws ar berthnasau heterorywiol mewn operâu wnaeth arwain tenor o Landudno i greu albwm llawn cerddoriaeth gan feirdd a chyfansoddwyr LHDTC+.

Bydd ail albwm Elgan Llŷr Thomas, Unveiled, allan fis nesaf yn ystod Mis Pride, ac yn cael ei lansio fel rhan o ddigwyddiad Pride Neuadd Wigmore yn Llundain.

Ynghyd â gweithiau gan feirdd a chyfansoddwyr eraill oedd yn perthyn i’r gymuned LHDTC+ fel Benjamin Britten, y bardd Robert Brooke a’r cyfansoddwr Michael Tippet, mae’r albwm yn cynnwys darnau wedi’u cyfansoddi gan Elgan Llŷr Thomas hefyd.

Mae’r cerddor a’r cyfansoddwr, sydd bellach yn byw ym Manceinion, wedi chwarae rhannau “anhygoel”, ond rhoddodd cyfnod Covid gyfle iddo ailystyried rywfaint.

“Doeddwn i jyst ddim yn mwynhau’r job, cyn Covid oedd hyn. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n mynd o un cytundeb i’r nesaf, o gwmni i gwmni, troi fyny, chwe wythnos o ymarfer, pythefnos i fis o berfformio, ac wedyn gorfod gadael, mynd adref am ychydig o wythnosau, cyn mynd ffwrdd eto,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i’n teimlo fel bod yna ddim patrwm, a fy mod i ddim yn cael lot o fwynhad o wneud hynny â dweud y gwir. Dw i wedi gwneud rhannau anhygoel, a dw i wedi gwneud rhannau sydd am dalu’r biliau. Ond doeddwn i ddim yn teimlo’i fod o’n rhywbeth oeddwn i’n mynd i allu ei wneud am byth.

“Yn amlwg roedd Covid yn ofnadwy, ond be gefais i oedd lot o amser i allu edrych ar y pethau doeddwn i ddim yn hapus efo nhw a thrio’u newid nhw.

“Pan wnaeth pethau ailagor gefais i flwyddyn lyfli o waith, roeddwn i’n ofnadwy o lwcus.

“Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig o fewn y diwydiant, dw i yn licio actio a pherfformio ond roeddwn i jyst yn meddwl mai unwaith dw i wedi chwarae cymeriad hoyw a doedd hwnna ddim mewn opera – roedd o mewn drama efo caneuon ynddo fo.

“Roeddwn i’n meddwl y bysa fo’n neis cael cyfle i chwarae cymeriadau gwahanol. Fel arfer, be dw i’n cael fy nghastio fel ydy’r ‘young lover’.

“Roeddwn i’n teimlo fel bod gen i gymaint i’w ddweud fel artist, ac roeddwn i’n teimlo fel fy mod i ddim yn cael cyfle i ddweud y pethau yna.

“Fis Mawrth 2022, gefais i’r syniad yma – os dw i am ganu’r rhannau dw i wir eisiau eu canu mae’n rhaid i fi ryw ffordd ddweud wrth y byd mai dyma dw i eisiau ei wneud.

“Un o’r pethau gorau fedrith rywun wneud ydy rhyddhau albwm achos mae hynny’n rhoi cyfle i fi roi’r repertoire dw i eisiau ei ganu arno.”

‘Does neb eisiau clywed Beethoven’

Iain Burnside sy’n canu’r piano ar yr albwm, a chafodd Elgan Llŷr Thomas gyngor ganddo wrth geisio penderfynu ar repertoir Unveiled.

Gofynnodd Iain Burnside iddo pa fath o ganeuon roedd o’n hoffi’u canu, ac roedd yn awyddus i ganu darnau gan gyfansoddwyr fel Beethoven, Vaughan Williams, Dilys Elwyn-Edwards a Meirion Williams ar un adeg.

“Fe wnaeth Iain ddweud bod rhaid streamleinio’r repertoire… ‘Does yna neb eisiau clywed chdi’n canu Beethoven. Efallai ar gyfer albwm rhif 7… Mae gan bawb eu fersiwn gorau nhw o’r cylch yma o ganeuon gan Beethoven, dim y chdi fydd y ffefryn newydd. Mae’n rhaid i chdi ddewis pethau sy’n mynd i ddangos chdi ar dy orau rŵan’.”

Mae’r albwm yn agor gyda ‘Seven Sonnets of Michelangelo’ gafodd eu cyfansoddi gan Benjamin Britten ar gyfer ei bartner Peter Pears yn y 1940au.

“Fe wnes i ddechrau meddwl, roedd Michelangelo yn hoyw a fo oedd un o’r beirdd cyntaf erioed i sgrifennu cerddi yn benodol gan un dyn i ddyn arall. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n ofnadwy o ddiddorol, dyna pam wnaeth Benjamin Britton ddewis y cerddi yma a’u gosod ar gyfer ei bartner o ar y pryd yn 1941.”

Er mwyn sicrhau bod cynulleidfa yn Llundain yn deall ystyr y caneuon, sydd yn yr Eidaleg yn wreiddiol, fe wnaeth Jeremy Sams eu cyfieithu i Saesneg ar gyfer yr albwm newydd.

“Roedd [Benjamin Britten a Peter Pears] yn gwybod yr hanes a pha mor bersonol oedd rheiny, ond fysa’r gynulleidfa yn Llundain ddim efo syniad be oedd ystyr y geiriau yma.”

‘Dangos caneuon am y tro cyntaf’

O’r fan honno, daeth Elgan Llŷr Thomas o hyd i ddarnau eraill sy’n plethu i’r un thema, gan gynnwys gwaith Ruth Gipps, cyfansoddwraig fu farw yn y 1990au ond na chafodd fawr o sylw yn ystod ei hoes.

“Roedd ganddi lwyth o gerddoriaeth a neb yn perfformio. Fi fysa wedi bod y person cyntaf i recordio’i chaneuon hi o gwbl, ond mae yna un person wedi fy nghuro i rŵan.”

Fe wnaeth hi osod cerddi gan y bardd Rupert Brooke, oedd yn fardd deurywiol oedd yn ysgrifennu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1940.

Mae’r albwm hefyd yn gynnwys ‘Songs for Achilles’ gan Michael Tippett, cylch arall gan gyfansoddwr fu’n brwydro â’i rywioldeb.

Gosododd Elgan Llŷr Thomas waith Andrew McMillan, bardd hoyw sy’n ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Manceinion, ar gerddoriaeth ar gyfer y darn sy’n cloi’r albwm.

“Fe wnes i jyst cario ymlaen o hynny, a dyna lle gefais i Unveiled. Dw i’n dangos caneuon Britten mewn ffordd dydyn nhw ddim wedi cael eu clywed cyn hyn, hwn ydy’r recordiad cyntaf erioed o’r caneuon gan Ruth Gipps… felly mae’r caneuon yma’n cael eu dangos am y tro cyntaf.”

Bydd yr albwm allan ar Fehefin 23.

Elgan Llŷr Thomas

Albwm newydd canwr opera cwiar yn taflu goleuni ar gantorion LHDTC+ eraill

Roedd Elgan Llŷr Thomas yn teimlo’n rhwystredig ynghylch diffyg cynrychiolaeth yn y byd opera