Mae cyrhaeddiad wythnosol S4C 8% yn fwy na’r llynedd, yn ôl y Prif Weithredwr Siân Doyle, fu’n siarad mewn uwchgynhadledd.

Daw ei sylwadau yn fuan ar ôl i’r sianel lansio ymchwiliad i honiadau o fwlio a diwylliant o ofn.

Daw hyn ar ôl i’r cadeirydd Rhodri Williams gyhoeddi ddechrau’r mis fod cwmni cyfreithiol Capital Law wedi cael eu penodi i ymchwilio i’r honiadau.

Derbyniodd rhaglen Newyddion S4C lythyr o gyfeiriad e-bost anhysbys yn honni bod staff y sianel yn cael eu hanwybyddu a’u tanseilio gan y tîm rheoli, ac “yn aml yn eu dagrau”.

Mewn llythyr at aelodau annibynnol bwrdd S4C, mae swyddog undeb Bectu yn dweud bod “diwylliant o ofn” yno, a staff “yn rhy ofnus” i siarad am eu profiadau ar ffurf cwynion.

Soniodd y llythyr fod pedwar aelod o staff yn eu dagrau yn ystod cyfarfod gyda’r undeb.

Dywedodd Rhodri Williams fod yr honiadau’n “achosi gofid” i’r sianel, ond eu bod nhw wedi ymateb yn y “modd priodol… gyda’r cyflymder angenrheidiol” a’u bod nhw’n barod i gymryd y “camau angenrheidiol” i ddatrys y sefyllfa.

Cyrraedd cynulleidfa newydd

Yn ôl Siân Doyle, tra bod cyrhaeddiad wythnosol S4C wedi cynyddu, fe fu cynnydd hefyd o 16% yn ffigurau gwylio oriau brig y sianel ers y llynedd.

Dywed fod y sianel newydd ddenu eu cynulleidfa fwyaf o bobol rhwng 16-44 oed “ers degawd”.

Cyhoeddodd hefyd fod S4C wedi partneru â Wales Interactive, cwmni sy’n cyhoeddi ffilmiau a gemau rhyngweithiol.

“Un peth sydd wedi ein taro ni yn S4C ydi’r parodrwydd i gydweithio sydd yma a sut rydym felly yn dod â chynnwys gwych i gynulleidfaoedd Cymru,” meddai.

“O’r daith hanesyddol i Gwpan y Byd yn Qatar lle roeddem ni’n gweithio gyda’r FAW, Cymru Greadigol, y BBC, ITV, yr Urdd a thu hwnt – mae partneriaethau mor bwysig ac yn rhywbeth na ddylem ei gymryd yn ganiataol.”

Dywed fod S4C “wedi cael blwyddyn gref iawn” ers iddyn nhw dderbyn setliad ffi’r drwydded fis Ionawr y llynedd a dechrau gweithredu eu strategaeth newydd.

“Mae cyrhaeddiad wythnosol S4C +8% ers blwyddyn diwethaf a’r uchaf ers pum mlynedd,” meddai.

“Mae gwylio oriau brig S4C i fyny 16% ers llynedd, a chan mai un o amcanion ein strategaeth newydd yw cyrraedd cynulleidfaoedd ifanc, rwy’n falch iawn ein bod yn llwyddo yn yr oedran yma a newydd ddenu ein cynulleidfa 16-44 yr uchaf ers degawd.

“Heb os, rydym ni’n S4C yn mynd yn erbyn y duedd – “bucking the trend” – ac yn tyfu’r gynulleidfa hon, gan roi cyfleoedd i bawb gael mwynhau cynnwys beiddgar yn Gymraeg ar bob llwyfan.

“O Gemma Collins yn Mwy na Daffs a Taffs yn mynd yn feiral, i Tisio Fforc (Afanti) yn ennill gwobr New Voice fis diwethaf, a Drych: Rhyw Fi ac Anabledd yn curo Love Island am wobr Broadcast yn ddiweddar, mae ein cynnwys ni yn cyrraedd y gynulleidfa… ac yn llwyddo.

“Ac alla i ddim peidio â sôn am Dal y Mellt yn cael ei werthu i Netflix – y ddrama Gymraeg gyntaf erioed iddynt ei phrynu!”

Dywedodd fod “parhau i dyfu’r gynulleidfa ifanc yma yn flaenoriaeth fawr” iddyn nhw yn y cyfnod nesaf, a’u bod nhw wedi galw am syniadau ar gyfer comisiynu a chynhyrchu ffilm ryngweithiol newydd yn y Gymraeg, fydd yn cael ei dewis ganddyn nhw ac Interactive Wales cyn cyd-ariannu datblygiad tair sgript ac un ohonyn nhw’n cael ei hystyried ar gyfer ei chomisiynu.

Dywedodd fod hwn yn cynnig “potensial i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifainc wrth roi’r Gymraeg ar lwyfannau gemau o amgylch y byd”, ond fod eu “gweledigaeth ffilmiau Cymraeg yn mynd yn bellach”.

Sinema Cymru

Dywedodd fod gan S4C “bartneriaeth arloesol i gefnogi ffilmiau Cymraeg gyda Cymru Greadigol a Ffilm Cymru”, wrth gyhoeddi mai Sinema Cymru yw enw’r brand newydd.

Eu gobaith, meddai, yw “efelychu llwyddiant TG4 gydag An Cailin Cuin (The Silent Girl)“, ffilm Wyddeleg sydd wedi ennill sawl gwobr ac a gafodd enwebiad ar gyfer Oscar eleni.

“Drwy Sinema Cymru, byddwn ni a Cymru Greadigol yn buddsoddi £2m gyda’r nod o gynhyrchu ffilm Gymraeg y flwyddyn gyda chefnogaeth Ffilm Cymru,” meddai.

“Ac rwy’n falch iawn felly o rannu logo’r cynllun Sinema Cymru am y tro cyntaf heddiw ac i roi gwybod mai elfen gynta’r bartneriaeth i fynd yn fyw fydd y cynllun arian datblygu fydd ar gael o fewn y mis ar gyfer galwad i ddatblygu tair ffilm yn Gymraeg, gydag un o’r rhain yn cael ei dewis i’w chynhyrchu.

“Bydd rhagor o fanylion am hyn ar wefan Ffilm Cymru yn fuan.”

Cyhoeddodd hefyd fod y “gwaith o baratoi a datblygu’r to newydd o awduron fydd yn cyfrannu at y llwyddiant ffilm yma eisoes ar waith”.

“Rydym ni’n credu’n gryf mewn hyfforddiant a meithrin sgiliau,” meddai.

“Felly fel rhan o Sinema Cymru, mae’r National Film and TV School Cymru wrthi’n dewis y criw cyntaf o ddarpar awduron fydd yn cael hyfforddiant lefel-uchel ar y cynllun O’r Sgript i’r Sinema fydd yn cychwyn yr haf yma, y cynllun cyntaf o’i fath gan yr NFTS ac S4C a Chymru Greadigol.”

‘Sector yn gryf ac yn ffynnu’

Wrth gyfeirio at ben-blwydd y sianel yn ddeugain, dywedodd fod rhaid iddi “fynd yn erbyn y tueddiad Cymraeg o fod yn modest, a gwneud tipyn o ‘Sŵn’ am y llwyddiannau rydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar”.

“Mae’r sector yn gryf ac yn ffynnu yma yng Nghymru,” meddai.

“Mae partneriaethau fel sydd gennym ni gyda Cymru Greadigol, a’r holl gwmnïau sydd wedi bod yma dros y dyddiau diwethaf, yn rhan mor bwysig o hyn.

“Mae datblygiadau fel stiwdio Aria ar Ynys Môn rydym ni wedi buddsoddi ynddyn nhw yn adeiladu a meithrin talent y dyfodol hefyd.

“Ac mae’r drafft Mesur Cyfryngau yn San Steffan yn atgyfnerthu rôl S4C a’r iaith Gymraeg ar gyfer y dyfodol.

“Fel y darlledwr sydd wedi bod wrth wraidd twf y sector yma ers 1982, yn comisiynu cynnwys o bob cwr o Gymru ac yn gweithio mewn partneriaeth, mae S4C yn falch iawn o’r llwyddiant ac yn edych ymlaen at y deugain mlynedd nesaf – a thu hwnt!”

 

Croesawu’r ymchwiliad i honiadau o fwlio yn S4C

Daw sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cyhoeddiad cadeirydd y sianel neithiwr (nos Fawrth, Mai 2)