A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’r cyfansoddwr, arweinydd a chyfarwyddwr cerdd Eilir Owen Griffiths wedi bod yn trafod ei brofiadau o fod “mewn carchar tywyll, du”.
Fe agorodd ei galon am ei brofiadau dwys mewn rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul (Mai 14).
Dyma’r tro cyntaf iddo siarad mor agored a theimladwy am ei broblemau iechyd meddwl, ac yn ystod y rhaglen, sydd bellach ar gael i’w gwylio ar S4C Clic, fe fu’n rhannu ei brofiadau gyda’r cyflwynydd Lisa Gwilym.
Yn ystod y sgwrs ddirdynnol, bu’n rhannu ei brofiad o gyrraedd ymyl y dibyn, sef argyfwng mwyaf ei fywyd, pan oedd yn barod i droi cefn ar y cyfan.
“Ro’n i’n commute-io i Gaerfyrddin ddwy awr y dydd, ac achos bo fi wedi blino gymaint ro’n i’n edrych ar number plates, a’r number plates yn gyrru negeseuon negyddol i fi,” meddai.
“Mae’n swnio’n hollol bisâr rŵan, ond dw i’n cofio meddwl am bethau fel yna.
“A thaith ’nôl o Gaerfyrddin un tro, wnes i ffeindio fy hun ar bont uwchben yr M4.
“Doeddwn i ddim eisiau dangos i bobol bo fi’n methu ar rywbeth, felly roedd o’n haws i fi fynd na methu.”
Pwysau bywyd cyhoeddus
Meddwl am ei wraig, Leah, a’i blant oedd wedi ei rwystro rhag mynd ymhellach.
“Os fyddai’r Eilir rŵan yn edrych yn ôl, bydden i’n dweud, ‘Paid â gadael iddo fo gyrraedd y pwynt yma eto,” meddai.
Roedd sefydlu Côr CF1 a chael llwyddiant yn hyfryd, meddai, ond daeth hynny â phroblemau eraill yn ei sgil.
“Roedd bod yn fwy cyhoeddus, efallai, wedi rhoi pwysau arna i fel person ac roedd rhaid delio efo sefyllfaoedd eithaf anodd gyda’r elfen gystadleuol, a bo fi yn ffeindio fo’n beth anodd rhoi fy hun allan yna fel arweinydd côr,” meddai.
Y peth anoddaf gydag iselder, meddai, yw trio cael y cydbwysedd rhwng yr “highs aruthrol a’r lows hyd yn oed gwaeth”, ac am flynyddoedd “doedd dim balans o gwbl”.
Aeth at y doctor am help, ond pan fyddai’n teimlo’n well roedd yn “pwsho’r help i ffwrdd”.
Daeth argyfwng arall yn ystod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2014 pan oedd yn Gyfarwyddwr Cerdd.
“Wnes i jest torri lawr, a dw i’n credu bo fi wedi cael mini breakdown,” meddai.
I’w wraig Leah a’i rieni mae’r diolch ei fod wedi goroesi’r profiad hwnnw, ac fe lwyddodd i barhau gyda’i waith yn yr Eisteddfod y diwrnod canlynol.
Ond yng nghanol y cyfnod clo ym mis Rhagfyr 2021, daeth at ymyl y dibyn unwaith eto, a’i wraig wedi delio â’r sefyllfa wrth fynd â’i gŵr at y doctor.
“A dyma fe’n dweud, ‘You have to stop everything‘, a wnes i feddwl, ‘Na’.
“Roedd y syniad yna bod rhywun yn dweud bo fi ddim yn cael arwain côr yn ddinistriol i fi. Yr elfen gerddorol oedd yn cadw fi fynd.”
Llwyddiant unwaith eto
Ar ôl seibiant dros y Nadolig, fe aildaniodd ei fywyd cerddorol, gan arwain CF1 i’r brig yn rownd y corau cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru.
Fe ddefnyddiodd y cyfnod clo i gyfansoddi ‘Lux (Diolch i Ti)’, “sef gosodiad o pan o’n i mewn carchar tywyll, du”.
“Y syniad ydy bod yr Haleliwia yn dechrau’n bell i ffwrdd ac yn raddol mae’n dod yn nes ac yn nes ac, yn y diwedd, yn chwalu waliau’r carchar i lawr,” meddai, gan ychwanegu ei fod e bellach “mewn lle gwell” ac yn obeithiol am y dyfodol.
Erbyn hyn, mae’n awyddus i helpu pobol eraill drwy siarad am ei brofiadau.
“Siarad – hwnna oedd y wers bwysica’ i fi ddysgu,” meddai.
“Ro’n i’n cau lawr, cau lawr, masg i fyny, a doeddwn i erbyn y diwedd ddim yn siarad efo’r bobol agosa’ ata’i, ac mae mor, mor bwysig, alla’i ddim pwysleisio ddigon.
“A sicrhau bod yna rywun yna i wrando, hyd yn oed pan ydach chi’n meddwl bo chi’n hollol ar ben eich hun.”