Roedd agor ei siop lyfrau ei hun yn freuddwyd i berchennog Siop Lyfrau Annibynnol y Flwyddyn y British Book Awards eleni.
Agorodd Mel Griffin ei siop ym Mhenarth yn 2014, ac ers hynny mae hi wedi bod wrthi’n dysgu Cymraeg hefyd.
Curodd Griffin Books 58 o siopau llyfrau eraill o wledydd Prydain ac Iwerddon i ennill y teitl mewn seremoni yn Grosvenor House yn Llundain ddechrau’r wythnos.
Mae’r siop yn cynnal sawl digwyddiad gydag awduron, sesiynau arwyddo, sesiynau straeon i blant, a chlybiau darllen i oedolion, plant a phobol ifanc.
Cyn cipio’r teitl dros y Deyrnas Unedig, roedd Griffin Books eisoes wedi dod i’r brig dros Gymru, ac yn brwydro yn erbyn siopau o wyth rhan neu wlad arall yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon am y wobr.
“Roeddwn i’n hapus iawn yn ennill, roedd pawb yn hapus iawn fel tîm. Mae’n hyfryd,” meddai Mel Griffin, gafodd ei magu i Dorset a symud i Benarth yn 2001, wrth golwg360.
“Roedd e’n sioc, achos doeddwn i ddim yn disgwyl y wobr.
“Roeddwn i’n gweithio gyda chyfrifiaduron ers y brifysgol, felly amser hir! Ond pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn i’n gweithio mewn siop lyfrau yn Dorset.
“Roeddwn i’n gweithio bob dydd Sadwrn yn y siop lyfrau, a chefais i’r freuddwyd i gael siop lyfrau fy hun yn y dyfodol.
“Roedd gen i’r freuddwyd honno, ac yn y pendraw cefais i’r cyfle i brynu’r siop pan wnaeth y perchnogion ymddeol.
“Mae’n hyfryd iawn, dw i’n edrych ymlaen bob dydd i ddod i’r gwaith dal!”
Llyfrau Cymraeg
Mae Griffin Books yn gwerthu llyfrau Cymraeg, a dywed Mel Griffin ei bod hi’n bosib iddyn nhw archebu unrhyw lyfr Cymraeg i gwsmeriaid.
Cafodd y siop ei chanmol am ei gallu i addasu, gan ddod dros Brexit, y pandemig a’r argyfwng costau byw gyda chysylltiad agosach nag erioed i’w chymuned.
“Mae’n anodd i’n cwsmeriaid, ond dydy llyfrau ddim rhy ddrud ac mae’n brysur iawn dal efo pobol, mae’n brysur iawn gyda llyfrau plant,” meddai.
“Hyd yn hyn, rydyn ni’n ffeindio ei bod hi’n iawn i’r busnes.
“Rydyn ni’n gobeithio bod hynny’n parhau!”
‘Argraff tu hwnt i’w pedair wal’
Dywed cadeirydd panel beirniaid y gystadleuaeth eleni fod y deuddeg mis diwethaf wedi bod yn “drobwynt” i siopau llyfrau annibynnol.
“O ganlyniad, mae hi hefyd yn bosib dadlau mai hon oedd un o’r blynyddoedd mwyaf cystadleuol erioed ar gyfer Gwobr Siop Lyfrau Annibynnol y Flwyddyn, gyda naw enillydd rhanbarthol a chenedlaethol cryf iawn,” meddai Tom Tivnan, sydd hefyd yn olygydd gweithredol The Bookseller.
“Eto, fe wnaeth Griffin Books ddal llygad y panel beirniadu wrth wneud mwy nag yr oedd gofyn iddyn nhw ei wneud.
“Hon yw un o’r siopau lleiaf i ennill y wobr, ond mae eu harloesedd parhaus yn golygu bod eu hôl yn fwy na maint y siop.
“O’u ffrwd o ddigwyddiadau (gan gynnwys eu gŵyl lenyddol eu hunain) i’r gwasanaethau tanysgrifio a’u helfen ddigidol, mae Griffin wedi dangos yn gyson eu bod nhw’n gwneud argraff tu hwnt i’w pedair wal.
“Yn fwy na dim, mae cysylltiad lleol Griffin – fel eu gwaith gydag ysgolion, elusennau, a hyd yn oed noddi clwb pêl-droed – yn dangos pa mor bwysig all siop lyfrau fod i gymuned.”