Yn fy erthygl ddiwethaf cyn y Nadolig, awgrymais sut i goginio pryd o fwyd maethlon, am bris rhad, yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r oergell yn wag ar ôl y Nadolig, heblaw am ddarn o letysen, ciwcymbr, ychydig o wyau a sbeisys ar y silff. Mae yna lew yn eich bol – ond rydych mewn gorddrafft, felly beth wnawn ni o sefyllfa fel hyn? I ychwanegu at bopeth, rydan ni wedi rhoi pwysau ymlaen dros yr ŵyl ac yn awyddus i golli bol y gloddesta.
Eleni, yn fwy nag erioed, mae’r esgid yn gwasgu. Felly, beth am wneud y gorau o’r hyn sydd gennym ar ein silffoedd, y cynnyrch rydan ni’n ei daflu fel arfer, am nad ydan ni’n gweld potensial neu werth i’r eitemau o ran coginio? Mae modd coginio bwyd maethlon a fforddiadwy drwy fod yn greadigol gydag ychydig eitemau yn unig yn yr oergell.
Beth fydda i ei angen?
· Mins Cig Eidion 750g
· 6 ŵy ffres
· Letysen
· Powdr Tandoori
· Garlleg
· Ciwcymbr
· Tsili
· Olew olewydd (Olive Oil)
· Nionyn
Paratoi
- Torrwch ddarnau hir o giwcymbr a nionyn gwyn a choch, a’u rhoi mewn dysgl baratoi
- Gwahanwch chwe melynwy a’u rhoi yn y mixer. Gwnewch yn siŵr nad oes gwynwy yn y cymysgedd
- Rhowch lwy fwrdd o ddŵr oer i mewn i’r mixer, llwy de o fwstard Dijon neu Seisnig
- Torrwch dri ‘segment’ (clove) o arlleg a’u cynnwys yn y mixer ynghyd â phupur a halen
- Trowch y mixer ymlaen a chymysgu’r cynhwysion am ryw ddeg eiliad, dair gwaith
- Ar ôl cymysgu tair gwaith, mae angen tywallt hanner cwpan de o olew olewydd i mewn i’r mixer yn ARAF DEG gan gymysgu wrth wneud hynny.
- Mae’r Mayonnaise yn barod – tywalltwch y cynnyrch i ddysgl fach yn barod ar gyfer ei weini gyda’r pryd bwyd.
- Golchwch y letysen dan ddŵr oer a gosod pedwar darn ar blât yn barod ar gyfer y ‘wraps’
Coginio
- Ffrïwch y cig eidion mewn padell gyda nionyn gwyn nes ei fod yn frown
- Rhowch ddigonedd o bowdr Tandoori ar y cig a’i gymysgu’n dda. Peidiwch â bod yn swil!
- Rhowch bupur a halen ar y cig.
- Pan fydd y cig eidion wedi coginio, rhowch lwyaid hael ar bob letysen gyda tsili i orffwys yng nghanol y ddeilen, ychwanegwch giwcymbr a nionyn coch i bob deilen ar y plât
- MWYNHEWCH! A pheidiwch â phoeni am fwyta’n daclus, bwyd bys a bawd yw hwn!
Mae’r cyfan yn bwydo pedwar aelod o’r teulu am £7.36 – felly £1.85 y pen!