Mae Medi Wilkinson wrth ei bodd yn creu prydau blasus sy’n dod â phobol at ei gilydd, ac yn dweud nad oes gwell ffordd o greu atgofion.

Ond mae hynny’n fwy anodd yng nghanol argyfwng costau byw. Felly sut mae mynd ati i baratoi a choginio pryd fforddiadwy i’r teulu oll?

Dyma Medi i gynnig syniad. Croeso i’w chegin!

“Gyda’r dyddiau’n byrhau, ydych chi ffansi rywbeth cynnes, blasus ond cyflym? Platiad sylweddol i’w rannu gyda ffrindiau a theulu gyda’r nos? Dyma’r ‘trît’ gaeafol perffaith efo gwydryn neu ddau o’ch hoff ddiod.”


Bara garlleg gyda menyn Cymreig, caws, rhosmari a chig moch


Beth fydda i ei angen?

  • Torth cob
  • Cig moch
  • Caws mozzarella
  • Menyn Cymreig
  • Garlleg
  • Rhosmari

Paratoi

Torrwch yr hyn a fynnoch o ddarnau bwlb garlleg yn fân

Torrwch sbrigynnau ffres o rosmari – ambell gentimedr yn unig

Torrwch hanner bloc (tua 125g) o fenyn Cymreig o’ch dewis, a’i roi mewn powlen

Llenwch bowlen cawl llawn caws Mozzarella

Ewch amdani!


Cyfarwyddiadau

1. Torrwch y dorth cob yn sgwariau bychain hyd at hanner ffordd, heb gyrraedd y gwaelod

2. Ffrïwch y Cig Moch mewn padell nes ei fod yn ‘crisbi’

3. Ychwanegwch y garlleg i’r badell gyda’r cig moch tan bod y garlleg yn frown, ond nid wedi ei losgi

4. Ychwanegwch y garlleg i’r bowlen llawn menyn a’i roi yn y popty ping i’w feddalu

5. Torrwch y cig moch yn ddarnau mân a’u gosod yn y tyllau o fewn y cob

6. Nawr, bydd angen tywallt y menyn Cymreig a’r garlleg ar draws y dorth cob (Peidiwch â phoeni am fod yn ‘daclus’!)

7. Lledaenwch y caws Mozzarella ar draws y dorth a’i gosod yn y popty am 10 munud

8. Ychwanegwch y sbrigynnau rhosmari rhwng y sgwariau bychain yn y dorth

9. Mwynhewch y wledd!

Cost

Cob = £1.29

Bacwn = £2.09

Mozarella £3.99 (bag 500g), ond defnyddio 250g = £2

Menyn £2.50 (250g), ond defnyddio 125g = £1.25

Garlleg £0.20

Rhosmari wedi ei dyfu

 

Cost y pryd cyfan = £6.83

Digon i deulu o 3 pherson = £2.27 y pen