Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y tenor o Ruthun yn Sir Ddinbych, Rhys Meirion, sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon…

Ro’n i’n byw ar Farley’s Rusks pan o’n i’n fach. Ro’n i’n toddi nhw mewn llefrith cynnes, ac wrth fy modd efo nhw. Dw i dal yn licio nhw. Dw i’n cofio pan oedd y plant yn cael nhw o’n i’n bachu ambell un.

Oeddan ni’n cael cinio dydd Sul bob wythnos, heb os, pan o’n i’n blentyn a dw i’n cofio sŵn y pressure cooker yn y gegin a bob man di stemio fyny, a chael ein siarsio i beidio mynd ato fo. O’n i’n cymryd lot o amser i fwyta pan o’n i’n fach a pan oedd y bwyd wedi mynd yn oer o’n i ddim yn licio fo gymaint ond, yn y dyddiau hynny, oeddan ni ddim yn cael gadael y bwrdd nes bod bob dim wedi mynd. Dw i’n cofio ogla’r sosban chips hefyd a meddwl ‘yes! Chips i de’. Os oedd Mam wedi gwneud gormod o chips roedd ’na seconds yn dal i ffrio ac roedd rheiny hyd yn oed yn neisiach.

Ym mis Ionawr a Chwefror mi fydda’i yn bwyta’n reit iach, ac mae’r adduned Blwyddyn Newydd yn para ryw ddeufis. Mi nesh i ddarganfod yr intermittent fasting diet ac mae hwnnw’n hawdd achos ti’m yn gorfod meddwl am gynhwysion a mesur calorïau. Mi fedrwch chi fwyta beth bynnag dach chi isho am wyth awr ac wedyn ddim bwyta o gwbl am 16 awr. Dw i’n trio cael y pryd ola’ am 5.30pm a ddim byd wedyn tan 10.30 bore wedyn. Mae’n grêt. Wrth neud hwnna mae’n weddol hawdd colli cwpl o bwysau’r wythnos. Mae fy mhatrwm bwyta fi bob man achos dw i ar y ffordd lot ac mae hynna’n anodd pan ti’n ffilmio neu mewn cyngherddau a ti’n gorfod bwyta rhywbeth o gaffi neu garej so mae’n anodd gwylio’r diet. Os dw i mewn gwesty dw i’n cael brecwast llawn ond fydda’i byth yn cael hynna adra – fydda’i fel arfer yn cael cereal fel Corn Flakes neu Rice Crispies, efo flaked almonds a chia seeds mewn llaeth a dipyn o maple suryp ar ei ben o wedyn. Dyna’r rwtin.

Dw i wrth fy modd yn coginio ond dw i’m yn dueddol o ddilyn rysáit –  dw i licio arbrofi a mynd efo be dw i licio. Ond dwi licio cael llonydd yn y gegin neu mae rhywun yn colli concentration. Mi fydda’i yn cael glasiad o win neu gwrw a’r gerddoriaeth ymlaen – dw i licio gwrando ar blws neu roc pan fydda’i yn coginio. Un da ydy Alexa – dydy hi ddim yn siarad yn ôl!

Dw i licio gneud cyri a phrynu’r stwff i gyd ac mae’n blasu’n wahanol bob tro. Un o’r pethau rhyfedda wnes i oedd coginio cyri pan o’n i newydd gael Covid a doedd genna’i ddim blas nac arogl felly’n gorfod mynd efo’r cof. Roedd pawb yn deud bod o’n blasu’n iawn ond oedd o’n deimlad od. Dw i wrth fy modd efo fajitas hefyd, ond er bo fi licio cyri a fajitas dw i ddim yn licio dim byd rhy sbeisi. Dw i ddim yn gweld pwynt cael dy dafod yn llosgi. Dw i’n gweld pobl yn bwyta [cyri] madras a vindaloo a meddwl be aflwydd maen nhw’n gael ohono fo? Mae’n artaith i fi.

Siocled ydy’r peth dw i’n troi ato am gysur. Dan ni’n mynd yn flin os nad oes ‘na siocled yn y tŷ. A phaced a grisps ond maen nhw’n deadly. Mae rhywun yn cael rhyw fath o gysur o’r peth ond yn difaru bwyta nhw wedyn.

Cig wedi’i goginio ar asado

Y lle wnes i fwynhau’r bwyd fwya’ oedd ym Mhatagonia. Mae’r stêcs a’r bwyd yn fanno yn fendigedig, y ffordd maen nhw’n coginio ar yr asado. Dw i wrth fy modd efo bwyd Chineaidd hefyd. Un o’n ffefrynnau ydy cripsy duck a pancake rolls – fyswn i’n gallu byw ar rheiny.

Be sy’n atgoffa fi o’r haf ydy’r barbeciw – dan ni wrth ein boddau efo barbeciw ac, os ydy’n braf, allan fyddan ni’n bwyta. Mae cig wedi’i goginio ar farbeciw yn blasu’n wahanol a jest bod allan mewn tywydd braf a phawb rownd y bwrdd. Yn y Gaeaf dw i licio lobsgóws, mae hwnnw’n comfort food ac yn dod ag atgofion o fy mhlentyndod hefyd. Doedd o ddim yn rwbath oedd yn dy gyffroi di, oedd o’n rwbath oedd rhaid ei fwyta ond dw i wrth fy modd efo fo rŵan. Y lobsgóws gorau oedd pan oeddan ni’n mynd i Noson Lawen a phawb yn dod a’u lobsgóws efo nhw a’i roi i mewn un sosban fawr ag oedd hwnnw’n ffantastig. Mae ‘na gysur i gael o fwyd ond beth sydd mor bwysig hefyd ond mor anodd, achos mae pawb mor brysur, ydy trio bwyta efo’n gilydd – dio’m yn digwydd bob dydd, ond amser swper dan ni’n trio dod at ein gilydd. Mae’n amser braf i ddal i fyny efo pawb.

Rysáit cyri

Dw i’n hoples am ddilyn rysáit. Y peth fydda’i yn gwneud sydd yn cymryd amser ydy cyri. Mi fydda’i yn cymryd ryw awr a hanner i wneud cyri a mwynhau. Felly dyma sut dw i’n gwneud cyri:

Ffrio nionod, madarch a’r puprau efo menyn garlleg a bach o olew olewydd, a gadael i hwnna stiwio am ychydig ar dymheredd reit isel. Tra mae hynny’n digwydd fydda’i yn cael y sbeisys at ei gilydd a dw i’n defnyddio past so dw i’n twyllo dipyn bach – past korma neu tikka masala – ac ychwanegu  powdr o bob math fel sinsir, paprika a tyrmerig, pupur a halen a stoc llysiau. Wedyn dw i’n coginio’r cyw iâr mewn menyn garlleg ar wahân a rhoi lot o tyrmerig ar hwnnw fel bod o’n felyn. Ar ôl i’r cyw iâr goginio mi fydda’i yn tollti’r saws ar y cyw iâr a gadael i hwnnw fudferwi ac wedyn tua chwarter awr cyn gorffen coginio mi na’i roi hufen dwbl ynddo fo. Dw i’n coginio’r reis ac wedyn dyna ni. Rhaid cael poppadums a naan bread, a rhoi mwy o fenyn garlleg ar hwnnw.

Fe fydd Rhys Meirion yn cael cwmni’r seren Tik Tok Bronwen Lewis ar Canu Gyda Fy Arwr nos Sul, Ionawr 8 am 8pm ar S4C.