Un o fy hoff bethau am rostio twrci neu gyw iâr yw cael gwneud stiw o’r sbarion, gan gynnwys yr esgyrn dwi’n eu berwi hefo nionyn a moron, ac unrhyw lysiau eraill sy’n digwydd bod yn y rhewgell; mae hyn yn gwneud sail blasus iawn i ychwanegu llysiau a twrci iddo.
Dwi’n ddigon ffodus y dyddiau hyn i fod yn berchen ar beiriant Fast, slow, pro, ac felly mae’r broses o greu stoc yn cymryd rhyw 30 munud o ‘goginio dan bwysau’, gydag amser ychwanegol bob ochr i’r peiriant lenwi hefo stêm, ac wedyn i ryddhau’r stêm mewn modd graddol a saff.
A’r peth gorau am y broses? Does dim angen i mi hofran o gwmpas yn cadw llygad arno.
Mae’r llysiau yn dueddol o dorri lawr a chael eu hamsugno i’r cawl. Mae’n hawdd wedyn tynnu’r esgyrn a gristle allan, a gadael eu naws yn weddill, gan gynnwys y braster.
Dwi wedi gweld sawl rysáit, a chlywed llawer o bobol yn dweud eu bod nhw yn sgimio’r braster oddi ar dop y cawl; tydw i ddim yn gwneud hyn, dwi’n meddwl fod y braster yn ychwanegu at flas a gwead y stiw, ond chwaeth bersonol yw hyn.
Cawl carreg a chwedl y ciwb stoc
Rwyf wedi synnu ar hyd y blynyddoedd ar faint o bobol sy’n ychwanegu ciwb stoc, yn hytrach na chreu stoc trwy berwi’r esgyrn. Yn wir, o sbïo ar sawl ryseit, fysech yn medru ystyried nad oedd stiw na chawl yn bodoli cyn dyfodiad y ciwb stoc!
Yn bersonol, mae’n gas gen i flas cawl sydd hefo ciwb stoc ynddo – rhyw ormod o flas iddo, a dwi’n stryglo i’w fwyta. Ond ar ben hyn, mae’r rhan fwyaf o giwbiau stoc yn cynnwys maltodextrin, sef ychwanegyn sy’n medru achosi adwaith alergaidd. Mae fy nghroen a cheg yn sensitif iawn i bethau fel hyn.
A rili, pam rhoi ciwb stoc mewn o gwbwl? Rhaid dweud, dwi’n gwbl baffled am giwbiau stoc fel ffenomenon. Mae’n fy atgoffa i o’r stori ‘Read it yourself’ roeddwn yn hoff iawn ohoni’n blentyn, sef Cawl carreg. Dyma’r fersiwn Saesneg, The Magic Stone.
Yn y stori, mae trempyn yn twyllo hen ddynes i’w fwydo, trwy gogio ei fod am wneud cawl iddi drwy ferwi carreg. Yn raddol, mae o’n ei hargyhoeddi y bysai’r cawl yn well hefo llysiau, cig a.y.b.
Mae’n stori sy’n hyrwyddo gwerth rhannu, gan fod y cynhwysion i gyd gan y ddynes, ond roedd hi wedi gwadu bod ganddi unrhyw beth i’w rannu hefo’r trempyn. Ond mae hi hefyd – i mi o leiaf – yn dangos y math o chwedl sy’n medru bodoli o amgylch rysáit cawl, gan gynnwys y ffenomenon fodern o orfod cael ciwb stoc.
Economi, blas, iechyd, a hiraeth…
Dwi’n mwynhau gwneud stiw hefo esgyrn am amryw o resymau. Wrth gwrs mae yna elfen economaidd fa’ma, oherwydd mi gewch chi fwy o brydiau fyth allan o’r wledd Nadoligaidd! Gwnes i ddigon o stiw i lenwi tair bowlen fawr, a gan nad yw’r gŵr yn hoffi stiw, ges i stiw i ginio, ac mae gen i bowlen ddi-ffwdan ohoni ar ôl at ddiwrnod arall (dim ond ei chynhesu sydd ei angen).
Dwi’n hoff iawn o’r blas a’r ffaith fy mod yn teimlo’n llawn, ond ddim yn or-lawn; mae’n fwyd sy’n fy siwtio. Yn wir, dyma oedd un o’r unig fwydydd di-glwten oedd ar gael yn Eisteddfod Tregaron, a ches i bowlen ohono bron bob dydd!
Mae yna hefyd rywbeth iachus am stiw fel’ma. Mae yna lond y lle o ddeiets modern sy’n cynnwys ‘bone broth’, bron fel rhyw fath o ffisig, a dyw hyn ddim yn syniad newydd, a dweud y gwir. Mae sawl diwylliant ar hyd a lled y byd wedi clodfori ei fuddion ers blynyddoedd maith.
Fel person sydd wastad wedi bod â iechyd sy’n fregus a gwan, dwi wrth fy modd hefo’r teimlad fy mod yn bwyta rhywbeth maethlon, hynafol, ac fy mod bron yn medru blasu’r maeth wrth i mi ei fwyta.
Ac yn olaf, mae yna ryw agwedd hiraethus i’r bwyd yma. Cefais fy magu arno, a dysgais gan fy mam sut i’w wneud o. Yn hynny o beth, mae’n fy nghysylltu hefo fy hen neiniau, ar ochr fy mam, gan iddi hi ddysgu ryseitiau oedd wedi eu pasio i lawr ganddyn nhw.
Mi roedden nhw’n wragedd cryf, dosbarth gweithiol, o deuluoedd y diwydiant dur yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mi roedd rhai ohonyn nhw ‘in service’, ac felly yn gwybod am goginio a phethau felly. Roedden nhw i gyd yn dlawd, ac felly’n gwybod sut i wneud prydau maethlon, blasus allan o sbarion.
Ac felly, wrth fwyta fy stiw hefo cawl esgyrn, dwi’n teimlo cysylltiad a pherthynas hefo fy nheulu ac etifeddiaeth, sydd yn deimlad braf iawn, rhaid dweud!