Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr actor o Gaerdydd, Saran Morgan, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon…


Dyw Mam [yr actor Sharon Morgan] erioed wedi bod yn gogyddes fawr, ac mae hi’n dyfynnu Shirley Conran i fi pan wi’n gofyn pam bod cyn lleied yn ei ffrij hi pan af i draw: “Life is too short to stuff a mushroom, Saran.” Mae Mam wastad wedi bod yn hynod iach, oedd yn confusing pan on i’n ifanc. Pam y bara a phasta brown a’r chwilio am ffrwyth a llysiau organig, oedd yn anoddach ffeindio 20 mlynedd yn ôl? Erbyn hyn, dw i’n deall yn iawn ac yn cytuno ‘da ddi. Ma’ siopa mewn siopau lleol yng Nghaerdydd (megis Fruit Bowl, Pulse – siop fwyd naturiol sydd bellach wedi cau – a Bant a la Cart) wastad wedi bod yn bwysig iddi hi ac yn rhywbeth dw i’n mwynhau gneud erbyn hyn. Mae cefnogi busnesau lleol yn bwysig, ac mae’r cynnyrch wastad yn well!

Mae Nhad, ar y llaw arall, yn dwlu ar fwyd a choginio, a dw i’n sicr taw creu prydau bwyd i ni yw ei ‘love language’ e. Ma’ pasta Dad yn un o’r pethe cynta’ dw i’n cofio byta ‘da fe – jest saws tomato, garlleg a chili gyda lot o parmesan ffres. Ma’ fe’n dal i neud y pasta yma bob tro dw i’n mynd i aros ‘da fe a’r teulu yn Gaerfyrddin, a dw i’n neud y pasta i fi, Mam, fy nghariad, fy ffrindie, unrhyw un sy’n fodlon i fi goginio iddyn nhw.

Dw i’n caru pizza, ond mae’n rhywbeth dw i ddim wir wedi, nac eisiau, coginio i fi fy hun. Mae gymaint o lefydd gwych ar ein stepen drws ni yma yng Nghaerdydd. Mae The Dough Thrower a Calabrisella yn wych, a Ffwrnes ym marchnad Caerdydd yn ‘go to’ os dw i o gwmpas dre. Fel wedes i, do’dd Mam ddim yn fussed ar goginio, felly wario’ ni orie ac orie yn Cibo – bwyty Eidalaidd ar Stryd Pontcanna – pan o’n i’n fach. O’n i mor drist i weld nhw’n cau yn 2017, ond ma’ Milkwood, sydd wedi dod yn ei le, yn un o fy hoff lefydd ym Mhontcanna erbyn hyn.

Fy mhryd delfrydol fyddai pryd mawr o fwyd Eidalaidd gyda fy nheulu a ffrindie agos ar bwys y môr yn yr haul. Lot o basta, mozzarella a thomatos – ac Aperol Spritz diddiwedd.

Fy hoff bwdin yw Creme Brulee. Aeth Mam a fi i Nice pan oeddwn i’n dair oed. Oedd Mam yn meddwl bod mynd ar wylie gyda merch fach tair oed yn golygu gwely erbyn 7 bob nos ond, yn ôl Mam, o’n i’n benderfynol o wisgo lan a mynd mas bob nos i fwyta. A dyna le dries i Creme Brulee am y tro cynta’. Mae Purple Poppadom ar Cowbridge Road yn gwerthu un blas rhosyn sy’n nefoedd.

Dw i ddim yn coginio’n aml, ond mae penderfynu ar rysáit o lyfr coginio (fy ffefrynnau yw llyfrau Ottolenghi, Nigella Lawson neu Nigel Slater), ffeindio’r cynhwysion i gyd mewn siopau lleol a chymryd amser yn creu pryd o fwyd blasus yn fy ymlacio. Cwpwl o’r ryseitiau dw i wedi dwlu gwneud yw un o ryseitiau madarch Ottolenghi a risotto lemwn Nigella.

Mae Saran Morgan yn chwarae’r cymeriad Greta yn y gyfres Yr Amgueddfa ar S4C/S4C Clic 

Saran Morgan yn chwarae'r cymeriad Greta yn y gyfres Yr Amgueddfa.
Saran Morgan yn chwarae’r cymeriad Greta yn y gyfres Yr Amgueddfa.
Llun: Paul Andrew