Mae cogydd ifanc o Wrecsam wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn rownd Ewropeaidd Her Fyd-eang y Cogyddion fis nesaf.

Bydd Sion Hughes, prif gogydd 25 oed The Spa yn Carden Park ger Caer, yn cystadlu yn erbyn rhai o gogyddion gorau gogledd Ewrop yn Rimini yn yr Eidal.

Fe fydd y ddau gogydd ddaw i’r brig yn mynd ymlaen i rownd derfynol fyd-eang y gystadleuaeth, sydd wedi’i threfnu gan Worldchefs, yn Singapore.

Mae Sion Hughes yn gyn-enillydd cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru, a bu’n aelod o Dîm Coginio Ieuenctid Cymru a enillodd fedalau arian ac efydd yng Nghwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg fis diwethaf.

Capten Tîm Coginio Ieuenctid Cymru, Calum Smith, fydd ei gogydd cynorthwyol, cogydd commis, ar gyfer y gystadleuaeth.

Bydd Calum Smith yn cynrychioli Cymru yn Her Fyd-eang y Cogyddion Ifanc hefyd, a bydd Will Richards, swyddog hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, gyda chymorth Stephanie Belcher, cogydd o Sir Benfro, yn cymryd rhan yn yr her ar gyfer Cogyddion Crwst.

‘Teimlad cyffrous’

Fel rhan o’r gystadleuaeth, rhaid i Sion Hughes goginio halibwt ar gyfer y cwrs cyntaf, ac eirin a lwyn cig llo fel prif gwrs i chwech o bobol mewn tair awr a hanner.

“Mae’n deimlad cyffrous cael cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth unigol hon, yn dilyn Cwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg,” meddai Sion Hughes.

“Bydd yn wych cael Calum, sy’n gyd-aelod o dîm Cymru, fel cogydd commis gan ein bod wedi arfer cydweithio.

“Dw i wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau unigol o’r blaen, ond bydd hwn yn brofiad hollol newydd a dyma fydd fy nhro cyntaf fel cogydd hŷn.

“Dw i wedi mynd yn rhy hen i’r tîm ieuenctid. “

‘Cogydd dawnus’

Bydd cyfarwyddwr coginio Cymdeithas Goginio Cymru, Graham Tinsley, prif gogydd gweithredol Gwesty a Sba Carden Park, yn eu hyfforddi ac yn mynd gyda nhw i’r Eidal.

Esbonia Graham Tinsley fod Cymru wedi bachu’r cyfle i Sion Hughes gael cystadlu gan fod lle gwag munud olaf yn rownd Gogledd Ewrop yn Her Fyd-eang y Cogyddion.

“Dw i’n gweithio gyda Sion yn Carden Park a byddaf yn gallu ei fentora a’i hyfforddi,” meddai.

“Does gennym ni ddim llawer o amser i ddatblygu a pherffeithio’i gynigion cyn y rownd yma.

“Mae’n gogydd ifanc dawnus a fydd yn cystadlu mewn gornest i gogyddion hŷn am y tro cyntaf a bydd yn mynd yno i ennill y rownd honno.”