Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Perchnogion bwyty pizza Ffwrnes yng Nghaerdydd, Ieuan Harry a Jes Phillips, sy’n rhannu eu hatgofion bwyd yr wythnos hon. Maen nhw’n dod o Lanelli’n wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd…

Ieuan: Mae hwn braidd yn random ond pan o’n i’n fach dw i’n cofio bwyta Weetabix a bydde Mam neu Dad yn cymysgu fe lan efo menyn, siwgr a bach o lefrith so oedd e fel uwd. Dw i’n cofio fflicio’r Weetabix ar y ceiling unwaith a dyma fe’n sticio a gadael staen bach oedd yno am flynydde.

Jes: Doedden ni ddim yn cael decadent Weetabix yn tŷ ni! Pryd o’n i’n fach iawn dw i’n cofio bod yn obsessed efo mynd i’r gegin a chael troi’r grefi ar gyfer cinio dydd Sul. Bydden i’n gallu bod yna am dri chwarter awr yn neud e, yn ôl Mam. Un o’r pethau eraill fi’n cofio oedd y toastie machine – a rhoi’r menyn tu fas a chaws a bîns yn y canol…

Ieuan: Mam oedd yn coginio’r rhan fwya’ o’r bwyd ac roedd gan Dad gwpl o specialities fel cyri a bydde fe’n tynnu’r hen lyfrau mas. Oedd pethe wastad bach yn hectic yn tŷ ni, achos oedd Dad yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn teithio yno bob dydd, a Mam yn gweithio nosweithiau fel nyrs. Felly roedd amser bwyd fel timing masterclass i Mam. Doedd dim lot o ddiddordeb ‘da fi mewn coginio ar y pryd ond fi oedd yn gyfrifol am wneud y soch mewn sach bob bore Dolig a gwneud yn siŵr bod digon ohonyn nhw.

Jes: Ro’n i’n lwcus iawn, doedd Mam ddim yn gweithio felly bob nos fydden ni’n cael caserol, cawl cyw iâr, neu Shepherd’s pie – bydde Mam yn coginio rhywbeth bob dydd. Yr unig beth dw i’n cofio o’n i wastad yn helpu mas efo oedd pan fydde hi’n gwneud y lemon sponge tartpastry a naill ai lemon curd neu jam efo sbwng ar ei ben e. Hyd yn oed nawr fi’n dwli ar lemon curd ar ddarn o dost trwchus efo menyn. Roedd gen i ddiddordeb mewn bwyd bryd hynny ond fydden i byth yn gwneud y gwaith caib a rhaw – ro’n i jest yna ar gyfer y pethau melys!

Ieuan: Un o’r pethau cynta’ wnes i yn y gwersi coginio yn yr ysgol oedd pizza a sgons. Ro’n i’n ffysi am fwyd yn tyfu lan ond pan es i’r brifysgol wnes i ddechrau arbrofi mwy a thrio pethau newydd. Roedd gwneud toad in the hole yn teimlo fel gastronomic masterpiece ar y pryd.

Jes: Dw i’n cofio mynd draw i dai ffrindiau a nhw’n cael pethau fel Findus Crispy Pancakes a do’n i erioed wedi cael rheiny achos oedd Mam yn gwneud popeth ei hun. So pan wnes i fynd i’r coleg wnes i fwyta pethau fel Chicago Town Deep Pan Pizzas am gwpl o flynydde a jest stwff o’n i heb gael pan o’n i’n tyfu lan. Ar ôl i fi adael y brifysgol bydden i’n gwneud pethau syml fel byrgyrs ond gwneud nhw o scratch efo sos barbeciw Jamie Oliver. Ro’n i wedi dechrau sylweddoli bod yna ffordd well o wneud pethau, a wnes i newid o fwyta i lenwi bwlch i fwyta i enjoio fe. Dw i’n gweld rhai pobl ifanc nawr ac maen nhw lot fwy aeddfed ac mewn i’r bwyd straight away, ro’n i’n dipyn o late bloomer.

Ieuan: Ni’n dwli ar peis yn tŷ ni fel steak and ale pies efo mash – dyna’r ffefryn, neu jest pasta syml iawn. Un o’r pethau wnes i ddysgu mas yn yr Eidal oedd sut i wneud spaghetti aglio e olio – pasta efo olew, garlleg a chili, mae’n hawdd twlu hwnna at ei gilydd. Mae’n comforting iawn efo gwres y chilis.

Jes: Mae ragu lyfli efo tagliatelle yn ffab. Neu pei efo puff pastry ar y top.

Pizza Ffwrnes

Ieuan: Fy mhryd delfrydol fyddai pizza yn Pepe In Grani yn Caiazzo tu allan i Napoli. Mae’r pizza o safon seren Michelin ac mae balconi efo golygfeydd hyfryd. Pizza a glasiad o win coch yn yr haul…

Jes: Bydden i’n dewis pizza mewn pizzeria yn Napoli neu tacos al pastor, rili syml, ar ddiwrnod poeth o haf efo cwrw oer, ar y traeth.

Ieuan: Y peth ry’n ni wedi dysgu fwya’ efo’r pizzas yw jest defnyddio pethau o safon a phethau sy’n lleol i chi. Ry’n ni dal yn cadw pethau’n draddodiadol. Mae jest yn gweithio.

Jes: Pan dw i’n coginio adre dw i’n tueddu i gadw at bethau sy’n weddol syml. Mae ‘da fi loads o lyfrau coginio ond yr un dw i’n troi ato dro ar ôl tro ydy The Green Roasting Tin sydd efo ryseitiau ar gyfer figans a llysieuwyr. Fi dal yn bwyta cig ond dyw’r teulu ddim. Dych chi’n gallu coginio popeth mewn un tun ac mae lot o amrywiaeth o bethau. One pot wonders ond efo golwg modern.

Jes: Mae arogl barbeciw yn sicr yn mynd a fi nol at yr haf – pethau fel souvlaki, Halloumi Teifi a salads, pitta a tzatziki. A naill ai seidr sych neu gwrw oer – dyna ydy blas yr haf i fi.

Ieuan: Mae tatws mash wastad yn atgoffa fi o’r gaeaf. Mae lot o fenyn yn y mash yn tŷ ni ac weithiau ychydig o gaws ac mae’r arogl yn dod drwy’r tŷ wedyn. Dw i’n dwli ar bethau fel Cottage pie neu Shepherd’s pie – dw i’n crefu’r grefi a’r menyn.

Jes: Os oes genna’i hangofyr dw i licio mash. Mae tatws jest yn anhygoel o ran pa mor versatile ydyn nhw. Dw i hefyd yn hoffi cael sglodion tew, efo llwyth o halen a saws cyri. Fi’n cofio fi a Ieus, pan oeddan ni’n ifanc, yn mynd i’r dre yn Llanelli i’r siop chips – y Savoy. Fel bois ifanc doedd yr enw yna yn golygu dim i ni ond pan dw i’n meddwl nôl oeddan ni’n bwyta yn y Savoy bob wythnos!

Ieuan: Fi’n tueddu i drio cael rhywbeth sbeislyd os oes ‘da fi hangofyr. Pan o’n i yn y brifysgol bydden i’n cael can o Coca Cola a Salt & Vinegar crisps ac roedd hynna wastad yn helpu.

Jes: Un rysáit rili hawdd ydy’r un am hot sauce a dw i’n ei roi e ar bopeth – pizzas, wraps, wedges, beth bynnag yw e, mae hot sauce ar yr ochr. Mae’n eitha’ tanllyd.

Ieuan: Dy’n ni ddim yn bwyta lot o gig yn tŷ ni felly rysáit go-to fi ydy cyri paneer efo ychydig o lentils coch drwy’r saws a stoc. Dw i’n addasu fe drwy’r amser.

Fe fydd Ieuan Harry a Jes Phillips yn mynd ar daith fwyd i wledydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gyfres newydd Bois y Pizza: Chwe Gwlad sy’n dechrau nos Lun 30 Ionawr am 8.25pm ar S4C.

Rysáit

Jes: Dyma rysáit yr Hot Sauce sy’n mynd ar bopeth. Wnes i weld y cogydd Thom Bateman yn creu’r saws yma a phenderfynu rhoi tro arni. Ma’ fe’n danllyd i fwyta ond hawdd i baratoi!

Cynhwysion

500g o tsilis

5% o ddŵr halen (brine) sef 50g o halen am bob litr o ddŵr

12 clof garlleg confit (garlleg sydd wedi cael ei goginio’n araf mewn olew)

100ml o olew ‘garlleg confit’ neu olew olewydd

120-130ml finegr gwin gwyn

60ml dŵr halen, wedi’i gadw

Halen i flasu, os oes angen.

Dull

  1. Tynnwch y topiau oddi ar y tsilis a’u sleisio’n hanner, rhowch mewn jar Kilner wedi’i sterileiddio a’u gorchuddio â’r dŵr halen. Defnyddiwch rywbeth i’w pwyso nhw i lawr ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhyddhau’r nwy bob dydd trwy agor y caead am 5 munud. Ar ôl 7 diwrnod maen nhw’n barod, er gallwch chi arbrofi a’u cadw am gyfnod hirach.
  2. Hidlwch y tsilis, gan gadw rhywfaint o’r dŵr halen.
  3. Rhowch y tsilis, y garlleg, dŵr halen a phinsied o halen mewn blender.
  4. Cymysgwch am 2 funud ar y cyflymdra uchaf ac yna ychwanegwch yr olew garlleg, cymysgwch eto nes ei fod yn llyfn. Rhowch drwy ridyll mân neu ei adael fel y mae. Mi fedrwch chi ei gadw yn yr oergell am hyd at flwyddyn a’i ychwanegu at bopeth!