Mae perchennog bwyty yng Nghaernarfon yn dweud bod y busnes wedi cau ei ddrysau hyd nes ei fod yn gwneud arian, ac yntau wedi mynd i ddyled.
Mae bwyty adnabyddus y Crochan yng Nghaernarfon wedi cau dros dro a’r perchennog Chris Summers wedi mynd i ddatblygu bwyty traddodiadol yn Llundain.
Defnyddiodd o arian y busnes i gyd i fuddsoddi mewn adeiladu cegin i fyny’r grisiau, a phan agoron nhw haf diwethaf cawson nhw siom efo nifer y cwsmeriaid.
Yn ei anterth, roedd y busnes yn cyflogi 14 o staff, gyda’r perchennog yn dweud ei fod yn “gwneud synnwyr i mi fod yma nes bod fi’n gallu agor y Crochan yn ôl os ydy hynny’n bosib”.
“Yn anffodus, mae’r Crochan ar gau nes bo fi’n gallu sicrhau fy mod am wneud arian, oherwydd mae’n ddyletswydd mawr iawn i fi bo fi’n talu beth sydd arna i i bobol,” meddai Chris Summers wrth golwg360.
Mae Chris Summers yn dweud bod y “diwydiant lletygarwch yn ei hun yn ansicr yng ngogledd Cymru”, a bod y busnes nawr “mewn dyled”.
Ac yntau’n gogydd proffesiynol, mae Chris Summers wedi symud i Lundain i ddefnyddio’i ddoniau coginio er mwyn talu dyled Y Crochan ac ailagor y busnes.
“Rwy’n cymryd prosiect yn Llundain, lle rwy’n helpu efo datblygu bwyty traddodiadol yma, yr hen chop houses oedd o gwmpas ryw 300-400 o flynyddoedd yn ôl, lle mae’r bwyty yn pwysleisio ar yr hen fath o gigoedd,” meddai.
“Mae o’n brosiect diddorol.
“Mae o’n fraint i mi gymryd rhan.
“Maen nhw wedi bod yn ceisio cael fi i gymryd rhan ers dros flwyddyn.
“Efo’r Crochan wedi cau doeddwn methu dweud na i ddod yma.
“Mae o’n gwneud synnwyr i mi fod yma nes bo fi’n gallu agor y Crochan yn ôl, os ydy hynny bosib.”
Dysgu llawer
Er bod y busnes wedi gorfod cau oherwydd nad oedd yn llewyrchus tuag at y diwedd, mae Chris Summers yn teimlo ei fod wedi dysgu llawer o’r profiad o fod yn berchennog.
Mae’n benderfynol o weld yr ochr orau ac yn gwybod nad yw llwyddiant yn anochel.
“Byddwn yn hoffi dweud fy mod wedi dysgu llawer o fod yn berchennog y busnes, yn enwedig bod yn berchen ar fusnes am y tro cyntaf mewn diwydiant mor heriol,” meddai wedyn.
“Mae llawer o bethau wedi bod yn anodd i ni ddelio efo o ran y busnes ddim yn llwyddo mor dda ag yr oeddem yn gobeithio yn yr ail flwyddyn.
“Mae o wedi bod yn anodd byw efo’r siom o’r busnes ddim yn llwyddo.
“Un peth rwyf wedi dysgu ac rwyf yn dysgu ydy nad yw pobol yn llwyddo bob tro.
“Mae’n bwysig fy mod yn bersonol yn cofio, er bod pethau yn ansicr efo’r Crochan, fy mod yn cymryd y pethau positif rwy’ wedi’u dysgu.”
Heriau’r diwydiant
Yn ôl Chris Summers, mae lletygarwch yn ddiwydiant anodd i weithio ynddo yn y gogledd.
Mae’r cyfnod clo a’r argyfwng costau byw wedi cael cryn effaith ar bobol yn ymweld a mynd allan i fwyta, a dydy pethau heb wella.
“Yn anffodus mae llawer o fwytai yn y ddwy flynedd diwethaf wedi gweld bod yna lawer o heriau wrth redeg neu fod yn berchennog busnes yn y diwydiant,” meddai.
“Dydy lletygarwch yng ngogledd Cymru ddim yn ddiwydiant hawdd iawn i weithio, yn enwedig efo ni’n dibynnu llawer ar ymwelwyr yn dod mewn i’r ardal.
“Yn anffodus trwy gyfnod Covid a blwyddyn diwethaf efo’r heriau costau byw, doedd neb yn mynd allan i fwyta, dim gymaint â beth oedd yn gwneud.”
Penderfyniad anghywir
Pan agorodd y busnes yn 2021, roedd yn llewyrchus iawn yn y flwyddyn gyntaf.
Yn anffodus, buddsoddodd Chris Summers yr arian i adeiladu cegin i fyny’r grisiau ac mae nawr yn meddwl bod hyn yn gamgymeriad, gan nad oedd arian wrth gefn pan nad oedd y busnes yn llewyrchus.
Ac yntau bellach mewn dyled, mae Chris Summers yn benderfynol o dalu’r ddyled yn ôl.
“Agorodd y Crochan ym mis Mai 2021 ac roedd y flwyddyn gyntaf yn absolutely amazing,” meddai.
“Doedden ni methu coelio pa mor llwyddiannus oeddem.
“Beth wnes i, oedd yn gamgymeriad ac mae gennyf i ddim ond fy hun i feio am hyn, gwnes i benderfynu buddsoddi’r arian i gyd yn ôl i’r busnes.
“Rhoddais bob un tamaid o arian oedd gennyf fi nôl mewn i’r busnes trwy symud y gegin i fyny’r grisiau.
“Roedd hyn yn waith mawr.
“Cymerodd chwe mis i ni gwblhau’r gegin newydd ar gost uchel iawn.
“Gwnaethon ni agor yn ôl jyst cyn yr haf blwyddyn diwethaf.
“Doedd dim ymwelwyr yn y dref.
“Doedd yna neb yn mynd allan i fwyta.
“Doedd y cefnogwyr lleol i gyd ddim yn mynd allan gymaint i fwyta.
“Roedd y costau oedd gennyf fi fel perchennog yn rhy uchel.
“Gwnes i’r penderfyniad anghywir yn symud y gegin i fyny’r grisiau.
“Defnyddiais bob tamaid o arian oedd gennym i wneud i hynny ddigwydd.
“Doedd gennyf ddim byd ar ôl i ddisgyn yn ôl arno i dalu biliau, i dalu beth roedd arna’ i i bobol.
“Yn anffodus, fel sy’n digwydd mewn busnes, mae’r Crochan wedi codi gymaint o ddyled, dydy o ddim yn gwneud synnwyr i aros ar agor ar y funud ac efallai bod fi’n gwneud arian, yn enwedig ar ddechrau blwyddyn pan does dim un bwyty am wneud llawer o arian yr amser yma o’r flwyddyn yng ngogledd Cymru heb sôn am yng Nghaernarfon.
“Yn anffodus, mae’r Crochan ar gau nes bo fi’n gallu sicrhau fy mod am wneud arian, oherwydd mae’n ddyletswydd mawr iawn i fi bo fi’n talu beth sydd arna i i bobol.
“Mae o’n siom mawr i fi bo fi yn y ddyled.
“Mae’n benderfyniad anodd ond mae hefyd yn benderfyniad hawdd i’w wneud tan bo fi’n gallu sicrhau bod y ddyled yn cael ei thalu.”
Y staff
Yn lle pwysig i’r gymuned leol, roedd y Crochan yn arfer nifer sylweddol o staff, a chafodd pobol o bob oed gyfle i weithio yno.
Tuag at y diwedd, roedd nifer y staff wedi gostwng yn sylweddol.
“Ar y mwyaf, yn y flwyddyn gyntaf roedd gennym bron i 14 o staff,” meddai.
“Efo’r busnes ddim mor dda y llynedd, roedd rhaid i ni dynnu hwnna i lawr bron i ddim.
“Erbyn y diwedd, roeddwn yno ar ben fy hun efo un yn y bar ac un yn y gegin efo fi.
“Pan oeddem ar ein gorau, roeddem yn cynnig gwaith i bobol.
“Roedd yna lawer o bobol yn gweithio i ni, a phobol ifanc hefyd.
“Roedd pobol ifanc yn cael y cyfle i weithio yn eu swyddi cyntaf.”
‘Rhoi’r iaith Gymraeg yn gyntaf’
Gyda Chymreictod a’r Gymraeg yn agos at galon Chris Summers, roedd yn benderfynol o gynnig bwydlen draddodiadol Gymreig oedd yn bwysig i’r gymuned leol.
Roedd yn bwysig i Chris Summers fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth amlwg yn y busnes.
“Y cynllun oedd gennym ni yn y dechrau oedd cynnig bwyd traddodiadol yr ardal i ffrindiau a dilynwyr lleol,” meddai.
“Roedd hynny yn rywbeth roeddem wedi gwneud a llwyddo i’w wneud yn y flwyddyn gyntaf, a hefyd rhan o llynedd.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bod lletygarwch yn dangos mwy o gynigion Cymreig o beth rwy’n gwybod dros Gymru i gyd.
“Rwy’ wedi bod yn ddigon ffodus i weithio a bwyta yn rhai o’r llefydd gorau yng Nghymru.
“Does yna neb yn cynnig bwyd traddodiadol Cymreig [yn yr ardal].
“Rwy’n meddwl bod hynna yn rhan bwysig o’r gymuned.
“Un o’r pethau gwnaethon ni ddewis gwneud, oedd yn bwysig i mi, oedd rhoi’r iaith Gymraeg gyntaf.
“Mae yna adegau ble rydym wedi rhoi llawer o bwyslais ar yr iaith Saesneg hefyd, i gael tynnu mwy o ymwelwyr i mewn.
“Yn gyntaf, roedd yr iaith Gymraeg wastad yn bwysig i gefnogwyr lleol.
“Roedd popeth fel ein bwydlenni ni yn Gymraeg.
“Mae’n dangos bo ni yn cefnogi’r iaith fel busnes ac fel bwyty.
“Roeddem yn fwyty ofnadwy o boblogaidd.”