Bydd tref Caerffili’n cynnal digwyddiad Pride am y tro cyntaf haf yma, yn ôl cyhoeddiad gan y Cyngor.

Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y bydd ‘Pride Caerffili’ yn ddathliad diwrnod er mwyn cydnabod cyfraniad pobol o’r gymuned LHDTC+ i’r gymdeithas.

Bydd y dathliadau i’r teulu’n cael eu cynnal ar Fehefin 24, rhwng 12yp a 7yh, ac yn cynnwys adloniant byw a pharêd Pride “eiconig”.

“Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod ers sawl mis i ystyried cynllunio’r digwyddiad Pride Caerffili cyntaf,” meddai Jamie Pritchard, arweinydd y Cyngor.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd yn ddiwrnod anhygoel o gerddoriaeth fyw, adloniant a dathliad wrth i ni ddod ynghyd i gefnogi ein cymuned LHDTC+ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

“Rydyn ni yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili’n parhau i fod yn lle cynhwysol i fyw, gweithio ac ymweld ag e i bawb, ac un ffordd yn unig o wrando ar leisiau ein cymuned LHDTC+ yw’r digwyddiad hwn.”

Mae disgwyl i’r parêd adael Ysgol St Martin am 12 o’r gloch, cyn mynd trwy ganol y dref ac o amgylch maes parcio Twyn, lle bydd yn dod i ben.

Daw cyhoeddiad y Cyngor ar ddiwrnod cyntaf mis Chwefror, sef mis hanes LHDT.