Mae Mabon ap Gwynfor wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o oedi ar fesurau i fynd i’r afael â Dolur Rhydd Feirysol (BVD) mewn gwartheg.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi galw am gyflwyno Mesur Drafft ar frys.

Clefyd feirol gwartheg sy’n achosi colledion atgenhedlu ac ystod o glefydau eraill mewn gwartheg yw BVD.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos hon gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, yn dweud mai dim ond ar ôl cyfnod pontio y byddai deddfwriaeth i fynd i’r afael â BVD yn cael ei chyflwyno.

Rhybuddia Mabon ap Gwynfor y byddai cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer cyfnod pontio cyn deddfu yn achosi oedi diangen ac yn caniatáu i BVD ledaenu heb reolaeth.

‘Rhwystredig’

“Roedd y Gweinidog yn iawn i ganu clôd rhaglen Gwaredu BVD yng Nghymru,”  meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae’n enghraifft o arfer da mewn gwaith cydweithredol gydag 83% o’r buchesi yng Nghymru yn cael eu sgrinio.

“Mae hynny’n gyflawniad rhagorol, a wnaed yn bosibl gan gyllid amhrisiadwy gan yr Undeb Ewropeaidd.

“Ond mae epidemiolegwyr milfeddygol ynghyd â phrofiad o wledydd eraill yn dweud wrthym mai’r allwedd i raglen lwyddiannus i ddileu BVD yw momentwm.

‘Dylai rhaglen Gwaredu BVD, fod wedi symud yn ddi-dor i raglen orfodol a ategwyd gan ddeddfwriaeth.

“Lansiwyd Gwaredu yn 2017.

“Mae’r llywodraeth wedi cael digon o amser i ddrafftio deddfwriaeth a pharatoi ar gyfer y posibilrwydd hwn.

“Mae’n hynod siomedig felly y bydd y momentwm a enillwyd o raglen Gwaredu yn cael ei golli wrth i ni aros i Fesur gael ei gyflwyno cyn dod yn gyfraith, a allai fod yn broses hirfaith ynddo’i hun sy’n para rhwng blwyddyn a dwy flynedd.

“Bydd ffermwyr a milfeddygon yn teimlo’n rhwystredig y bydd llawer o’r gwaith da yn cael ei ddadwneud yn y cyfamser.

“Bydd y Gweinidog yn dod o hyd i gonsensws ymysg y gwrthbleidiau sy’n fodlon cydweithredu i gyflymu’r Mesur hwn fel y gallwn fynd i’r afael â’r clefyd ofnadwy yma unwaith ac am byth.

“Rhaid iddi felly ddod â Mesur drafft gerbron cyn gynted â phosibl.

“Er y byddwn wrth gwrs yn cynnal ein scrwtineiddio ein hunain gan graffu ar y Mesur i sicrhau ei fod yn gweithio i’r gymuned amaethyddol, mae’n ddyletswydd ar y Gweinidog i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn ddiymdroi fel y gallwn sicrhau ei bod yn cael ei phasio cyn gynted â phosibl.”

“Gwaith rhagorol wedi ei wneud”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwaith rhagorol wedi ei wneud gan y rhaglen Gwaredu BVD a gafodd gefnogaeth o £9m gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r cynllun gwirfoddol hwn, sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant, wedi sgrinio dros 9,163 o fuchesi yn llwyddiannus sy’n cynrychioli dros 83% o fuchesi Cymru.

“Yn dilyn cefnogaeth ysgubol yn yr ymgynghoriad diweddar ar gyfer cynllun gorfodol i ddileu’r clefyd hwn, rydym yn symud ymlaen gyda’r bwriad o gyflwyno deddfwriaeth.

“Yn ystod y cyfnod pontio hwn, mae Gwaredu BVD a phartneriaid cyflenwi milfeddygol yn cynnig cymorth a chyngor i ffermwyr ar sut i fynd i’r afael â BVD ar eu ffermydd.

“Byddant yn parhau i ddarparu pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd sgrinio a phrofi BVD.

“Mae’n hanfodol bod ceidwaid gwartheg yn parhau i brofi eu buchesi yn erbyn BVD ac i gael gwared ar anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n gyson cyn gynted ag y bo modd ymarferol. Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cam gwirfoddol y cynllun BVD.”