Ymhlith y siaradwyr yn y rali Hawl i Streicio Cyngres yr Undeb Llafur (TUC) heddiw (dydd Mercher, Chwefror 1) mae Laura Doel, Cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru.
Mae NAHT yn cynrychioli mwy na 35,000 o arweinwyr ysgolion blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd ac arbennig, sy’n ein gwneud ni’r gymdeithas fwyaf ar gyfer arweinwyr ysgolion yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cynrychioli, yn cynghori ac yn hyfforddi arweinwyr ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Rydym yn defnyddio’n llais ar lefelau ucha’r llywodraeth i ddylanwadu ar bolisïau er lles arweinwyr a dysgwyr ym mhob man. Mae ein hadran NAHT Edge yn cefnogi, yn datblygu ac yn cynrychioli arweinwyr canol mewn ysgolion.
Heddiw, mae aelodau o NAHT Cymru sy’n arwain ysgolion yn dechrau Gweithredu’n Brin o Streiciau mewn ysgolion. Heddiw yw’r tro cyntaf yn hanes 125 mlynedd yr NAHT i ni ddechrau gweithredu’n ddiwydiannol yn genedlaethol yng Nghymru yn sgil arian a chyllid. Am yn rhy hir, mae arweinwyr ac athrawon wedi’u diflasu gan roddion cyflog parhaus sy’n is na chwyddiant, sydd wedi gweld eu cyflogau’n cael eu herydu gan fwy na 22% dros y deng mlynedd diwethaf.
Mae ein haelodau’n gwneud safiad o heddiw er mwyn gwarchod addysg; er mwyn adfer cyflogau i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng recriwtio a chadw; er mwyn mynd i’r afael â’r baich llwyth gwaith sy’n llesteirio’r system addysg; a rhoi’r amser a’r offer sydd ei angen ar arweinwyr ac athrawon i allu canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig – addysgu ein plant a’n pobol ifanc.
Fydd gweithwyr da, gonest o’r siort orau sy’n gweithio’n galed yng Nghymru ddim yn eistedd yn ôl ac yn gwneud dim wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i ymosod ar galon eu hawliau gyda’u deddfwriaeth wrth-undebau llafur.
Mae gennym ni hanes balch o godi yn erbyn gorthrwm, ac fe wnawn ni hynny eto.