Mae Mentrau Iaith a’r papurau bro ymysg y sefydliadau sy’n rhannu bron i £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi bod cyllid newydd ar gael i 36 o sefydliadau i’w helpu i barhau â’u gwaith pwysig er gwaetha’r ffaith fod costau byw yn cynyddu.

Bydd y Mentrau Iaith, sy’n darparu gweithgareddau a chyfleoedd yn Gymraeg i bobol yn eu hardal leol, yn cael taliad untro er mwyn mynd i’r afael â chynnydd mewn costau gweinyddu ac i godi cyflogau.

Mae’r Mentrau yn cefnogi siaradwyr Cymraeg o bob oed a’r gallu i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae’r papurau bro yn rhwydwaith o 53 o bapurau newydd Cymraeg lleol gan y gymuned ar gyfer y gymuned, er mwyn rhannu straeon, digwyddiadau a gwybodaeth leol.

Bydd pob un yn derbyn taliad i helpu â chostau cyhoeddi.

Bydd Prifysgol Bangor yn cael cyllid i barhau â’r gwaith ar Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac i’w helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle drwy brosiect ARFer.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i’w defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd,” meddai Jeremy Miles.

“Bydd y taliad untro hwn yn helpu ein rhwydwaith o sefydliadau sy’n rhoi cymorth i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn sgil yr argyfwng costau byw.”

Bydd y sefydliadau canlynol yn derbyn cyllid:

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru – £4,990.00

Merched y Wawr – £4,400.00

Mentrau Iaith Cymru – £6,400.00

Cered – £4,830.00

Hunaniaith – £6,680.00

Gwallgofiaid – £920.00

Dyffryn Nantlle 2020 – £120.00

Menter Iaith Abertawe – £4,090.00

Menter Iaith Blaenau Gwent, Tor-faen a Mynwy – £4,740.00

Menter Bro Ogwr – £2,400.00

Menter Caerdydd a’r Fro – £8,270.00

Menter Caerffili – £3,830.00

Menter Iaith Casnewydd – £2,400.00

Castell Nedd Port Talbot – £4,620.00

Menter Iaith Conwy – £4,230.00

Menter Iaith Sir Ddinbych – £3,270.00

Menter Iaith Merthyr – £2,400.00

Menter Iaith Môn – £5,330.00

Menter Iaith Maldwyn – £2,910.00

Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed – £2,400.00

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf – £4,320.00

Menter Iaith Sir Benfro – £3,620.00

Menter Bro Dinefwr – £5,240.00

Menter Gorllewin Sir Gâr – £2,910.00

Menter Cwm Gwendraeth Elli – £4,640.00

Menter Iaith Fflint Wrecsam – £5,290.00

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru – £2,000.00

Prosiect WICI Llyfrgell Genedlaethol Cymru – £600.00

Prosiect ARFer (Prifysgol Bangor) – £2,680.00

Prifysgol Bangor – Technoleg Iaith – £14,000.00

Ysgol Gymraeg Llundain – £3,600.00

Mudiad Meithrin – £121,240.00

RhAG – £4,000.00

M-Sparc (Prifysgol Bangor) Hac y Gymraeg – £1,120.00

Bardd Plant Cymru – £200.00

Papurau Bro – £5,300.00