Fe fydd taith gerdded arbennig yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Chwefror 4) i nodi 60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith.
Bydd y daith yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn rhai o’r lleoliadau mwyaf nodedig yn hanes y mudiad.
Cafodd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ei chynnal ar Chwefror 2, 1963.
Bydd y daith yn dechrau wrth Bont Trefechan, lle bydd Aled Gwyn, un o brotestwyr gwreiddiol y bont yn siarad.
“Roedd cyffro yng Nghymru ar ddechrau’r chwedegau yn sgil sarhad Tryweryn, darlith Tynged yr Iaith, trafodaethau yn Ysgol Haf Plaid Cymru ym 1962, ac arweiniodd hynny, ynghyd â safiad rhai unigolion, at yr awydd i weithredu dros ennill ei lle i’r Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni,” meddai ar drothwy’r daith gerdded arbennig.
“Sylweddolwyd fod ysbryd gweithredu wedi gwawrio yng Nghymru, a diolch byth, cynhaliwyd y momentwm.”
Bydd y daith yn mynd heibio hen Swyddfa’r Post, yr hen Orsaf Heddlu, hen safle’r Llys Ynadon a lleoliad swyddfeydd y Gymdeithas dros y blynyddoedd.
Ymhlith y siaradwyr eraill mae Eryl Owain, fydd yn trafod ei gyfnod gyda’r Gymdeithas yn y 1970au.
“Wrth edrych yn ôl i ddiwedd y chwedegau daw addasiad o eiriau Wordsworth am y Chwyldro Ffrengig i’m meddwl ‘Gwych oedd bod yn fyw y bore hwnnw a nef yn wir oedd bod yn ifanc’ a braint (a hwyl) oedd gallu bod yn rhan o gyffro gobeithiol y cyfnod yng Nghymru,” meddai.
“Roedd mwy o begynnu barn bryd hynny a gelynion y Gymraeg yn fwy amlwg ac yn dargedau hawdd i ymosod arnynt – er enghraifft, yr arwyddion ffyrdd ym mhob cymuned yn ein hatgoffa o israddoldeb y Gymraeg ac yn cynnig ymgyrch amlwg a syml y gallai cannoedd fod yn rhan ohoni.”
Edrych yn ôl – ond edrych ymlaen hefyd
Yn ogystal ag edrych yn ôl a nodi pwysigrwydd y brotest gyntaf, bydd y cyfranwyr yn dweud bod gwaith i’w wneud eto.
“Gallai canlyniadau’r cyfrifiad ein digalonni, ond mae arwyddion calonogol ar hyn o bryd bod gennym nifer o arweinwyr glew a mudiadau goleuedig mewn nifer o feysydd allweddol a all wneud gwahaniaeth a rhoi hwb i’n hyder,” meddai Aled Gwyn.
“Drwy ymdrech pob un gallwn gefnu yn llwyr ar daeogrwydd a magu asgwrn cefn. Mae’n rhaid cynnal yr ysbryd hwn a dal i ddweud ein stori.”
Un o’r cyfranwyr ddydd Sadwrn sydd wedi bod yn weithredol yn y cyfnod diweddar yw Bethan Ruth, cyn-gadeirydd y mudiad.
“Roedd y brotest gyntaf dros hawliau iaith, ac er bod statws iaith swyddogol gan y Gymraeg erbyn hyn rydyn ni’n dal i orfod ymgyrchu dros hawliau iaith – yn enwedig yn y sector breifat,” meddai.
“Yn yr un modd, roedd y frwydr dros sianel deledu yn frwydr i gael y Gymraeg ar y cyfrwng diweddaraf, ac mae ein hymgyrch am Fenter Ddigidol Gymraeg yn frwydr i gael y Gymraeg ar y cyfryngau diweddaraf heddiw.
“Rhaid i ni ddathlu llwyddiannau’r chwe deg mlynedd diwethaf a thalu teyrnged i’r protestwyr gwreiddiol a osododd y seiliau – ac adeiladu ar eu gwaith trwy barhau i ymgyrchu.”