Mae ymchwil gan YouGov ar ran Sefydliad Bevan wedi datgelu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar iechyd pobol yng Nghymru.
O blith y rhai wnaeth ateb, dywedodd 48% fod eu sefyllfa ariannol bresennol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, i fyny o 43% ym mis Gorffennaf.
Mae iechyd corfforol 30% o’r rhai wnaeth ateb wedi cael ei effeithio’n negyddol, gyda phobol ag anableddau wedi’u taro’n galed.
Dywedodd 61% o bobol ag anabledd sy’n effeithio ar eu gweithgarwch corffol fod eu hiechyd meddwl wedi cael ei effeithio, tra bod iechyd corfforol 55% ohonyn nhw wedi cael ei effeithio.
Wrth gynnig rhesymau, dywedodd 34% eu bod nhw wedi’i chael hi’n anodd cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol, a’u bod nhw wedi methu cymryd rhan mewn gweithgareddau (48% o ran iechyd corfforol, 47% o ran iechyd meddwl) neu weld eu teulu neu eu ffrindiau (28% o ran iechyd corfforol, 30% o ran iechyd meddwl).
Nododd 43% o’r rhai sydd wedi’u heffeithio’n negyddol fod diffyg gwres wedi cyfrannu at eu hiechyd corfforol gwael, gyda’r ffigwr yn 41% ar gyfer iechyd meddwl.
Dywedodd 23% o’r rhai wnaeth ateb fod anhawster â pherthynas wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
‘Pryder mawr’
“Ar adeg pan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisoes dan bwysau sylweddol, mae canlyniadau’r arolwg cipolwg yn destun pryder mawr o’u darllen nhw,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.
“Gyda’r fath niferoedd uchel o bobol yn adrodd bod eu hiechyd corfforol a meddwl yn cael ei effeithio’n negyddol gan eu sefyllfa ariannol bresennol, bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei ymestyn ymhellach.
“Dydy’r ffaith fod pobol ag anableddau a phobol â chyflwr iechyd hirdymor ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o weld eu hiechyd corfforol a meddwl yn cael ei effeithio’n negyddol gan yr argyfwng presennol ddim yn syndod.
“Dydy unrhyw ymdrechion i wella iechyd cyhoeddus heb ystyried tlodi ddim yn debygol o fod yn effeithiol.”
Yn ôl Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, mae’r canlyniadau’n “amlygu effaith ddynol real iawn yr argyfwng costau byw ar deuluoedd yng Nghymru”.
“Gyda disgwyl i gostau aros yn uchel drwy gydol 2023, mae’n hanfodol fod Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd y tu hwnt i fis Ebrill, neu mae perygl y bydd hyd yn oed mwy o bobol yn gweld eu hiechyd yn dioddef wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.”