Mae Cymdeithas yr Iaith yn chwilio am brotestwyr oedd ar Bont Trefechan 60 mlynedd yn ôl. Dyma lythyr agored…
I nodi chwedeg mlwyddiant Protest Pont Trefechan, mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu taith gerdded o amgylch Aberystwyth yn ymweld â lleoliadau arwyddocaol yn hanes y mudiad gan gychwyn am 10.00 ar y bont ei hun. Bydd siaradwyr gwadd ym mhob lleoliad.
Rydym yn awyddus iawn i gael cymaint â phosib o’r protestwyr gwreiddiol ynghyd. Rydym wedi llwyddo i gysylltu efo sawl un ohonynt yn barod ond, er gwaethaf ymdrechion gan nifer, rydym yn ymwybodol nad oes gennym fanylion cyswllt ar gyfer pawb. Os oeddech chi ar y bont ar y diwrnod hwnnw yn 1963 felly a heb glywed oddi wrthym, mae croeso mawr i chi fynychu’r digwyddiad.
Pe bai’n well gan unrhyw un beidio â gwneud y daith gerdded, bydd modd dod i Festri Capel Seion, Stryd y Popty o 10.00 ble fyddwn yn darparu lluniaeth ysgafn a chyfleoedd i hel atgofion. Bydd pawb yn ymgynnull yno am 1.00 ar gyfer cyflwyniad byr.
Mae croeso i unrhyw un fynychu’r digwyddiad wrth gwrs, ond rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan y protestwyr gwreiddiol. Cysylltwch felly (01970-624501 neu post@cymdeithas.cymru) os oeddech chi yno ac yn gobeithio dod.
Carol Jenkins
Ysgrifennydd Cyffredinol
Cymdeithas yr Iaith
Canolfan Merched y Wawr,
Stryd yr Efail,
Aberystwyth
SY23 1JH
01970 624501