Mae gadael i landlordiaid wneud pobol eraill yn ddigartref pryd bynnag maen nhw eisiau yn “ymosodiad amlwg ar hawliau pobol”, yn ôl undeb sy’n brwydro dros amodau rhentwyr.

Bu undeb Unite Cambria yn gorymdeithio drwy Aberystwyth ddoe (dydd Mercher, Chwefror 1) er mwyn protestio yn erbyn y nifer cynyddol o bobol sy’n cael eu troi allan o’u tai heb fai.

Cafodd 527 o bobol yng Nghymru eu troi allan heb fai rhwng mis Gorffennaf a Medi y llynedd, gyda landlordiaid yn manteisio ar y broses o gyflymu “hawliadau meddiannol”.

Mae’r “hawliadau” yn gadael i landlordiaid gael gwared ar denantiaid sydd ddim ar fai, a defnyddiodd dwywaith gymaint o landlordiaid y broses rhwng Gorffennaf a Medi o gymharu â’r cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin.

“Er bod taflu pobol allan o’u tai heb fai yn anghyfreithlon yn yr Alban, a hyd yn oed bod llywodraeth y Torïaid yn Lloegr hefyd yn addo i’w wahardd – mae’n dod yn fwyfwy aml nag erioed yng Nghymru,” meddai Colin Rigby, cadeirydd newydd yr Undeb.

“Mae pobol yn dioddef yn aruthrol oherwydd yr argyfwng costau byw sydd ohoni, yn ogystal â thoriadau diddiwedd ar y gwasanaethau cyhoeddus.

“Yn ogystal ag undebau llafur ar draws gwledydd Prydain, mae angen dybryd arnom ni gael mwy o undebau cymunedol fel Unite Cambria all weithredu’n uniongyrchol.

“Mae pobol gyffredin yn ennill pan maen nhw’n dod at ei gilydd ac yn cydweithredu.

“Trwy hyn, rydyn ni wedi adennill blaendaliadau ac wedi atal asiantaethau eiddo rhag gwahaniaethu yn erbyn hawlwyr budd-daliadau.”

Rali TUC yn gorymdeithio drwy Aberystwyth (Chwefror 1, 2023), ac undeb Unite Cambria yn eu canol

‘Dinistrio bywydau’

Mae’r aelodau, oedd yn arfer bod yn rhan o undeb tenantiaid ACORN, wedi ailffurfio fel cangen o Unite Communities.

Yn ôl yr undeb, mae’r penderfyniad wedi rhoi mwy o annibyniaeth ac adnoddau iddyn nhw, yn ogystal â chefnogaeth yr aelodaeth o 1.4 miliwn sydd gan Unite.

“Mae’r argyfwng tai yn dinistrio bywydau pobl,” meddai Llinos Anwyl, sy’n aelod o Unite Cambria.

“Mae tenantiaethau ansicr ac amodau byw gwael wedi creu argyfwng iechyd cyhoeddus, yn dinistrio iechyd corfforol a meddyliol cenedlaethau na fydd byth yn berchen ar gartref.

“Mae ymuno ag Unite Communities yn golygu fy mod i’n gallu brwydro yn ôl a newid pethau.”

Yn ogystal ag ymgyrchu dros wella amodau i rentwyr, mae’r undeb gymunedol leol yn amddiffyn trafnidiaeth gyhoeddus ac yn brwydro yn erbyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus.