Cafodd 2,676 o dai fforddiadwy eu hadeiladu yng Nghymru yn 2021/22, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Pum awdurdod lleol, sef Caerdydd â 99 uned, Sir Gaerfyrddin (91), Abertawe (60), Sir Benfro (57), a Sir Ddinbych (56) oedd yn bennaf gyfrifol am y cartrefi newydd.

Mae’r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn is na’r ffigyrau ar gyfer 2020/21 a 2019/20, ond yn uwch nag unrhyw flwyddyn arall.

Unedau rhentu cymdeithasol sy’n eiddo i awdurdodau lleol oedd 18% o’r cyfanswm, a landlordiaid sydd wedi cofrestru er mwyn darparu tai cymdeithasol oedd yn gyfrifol am 80% o’r adeiladau.

Targed o 20,000

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru bod Llywodraeth Cymru yn parhau i anelu at ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol i’w rhentu yn nhymor y llywodraeth hon, “a hynny mor gyflym” â phosib.

“Mae pawb yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy ac mae hyn yn sicr yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu argyfwng costau byw,” meddai Julie James.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi sector sy’n wynebu heriau sylweddol yn cynnwys costau deunydd cynyddol, cyfraddau llog uwch a phwysau ar y gadwyn gyflenwi a’r gweithlu.”