Fferm solar i gael ei hadeiladu gan Brifysgol Aberystwyth
Mae’r cynllun yn rhan o fwriad y brifysgol i fod yn garbon-niwtral erbyn 2030
Casgliad treftadaeth Ceredigion yn debyg o gael hwb o £250,000 gan Gyngor Sir Ceredigion
Bydd yr arian yn mynd tuag at brosiect Perthyn, a fydd yn archwilio’r syniad o berthyn a gwerthoedd cymunedol
Partneriaeth newydd i droi eiddo eglwysig segur yn dai fforddiadwy
Elusen Cyfiawnder Tai Cymru wedi dewis cydweithio â Grŵp Cynefin i geisio troi eglwysi a chapeli segur yn gartrefi ar gyfer pobol leol
Dros 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn cau llefydd bwyta awyr agored yn Nolgellau
Roedd busnesau wedi cael gorchymyn i dynnu strwythurau dros dro i lawr erbyn 1 Medi
Trafferthion i deithwyr wedi i lori yrru i mewn i bont drenau ym Machynlleth
Fe achosodd y digwyddiad i’r A487 fod ar gau drwy’r dref, ac roedd gwasanaethau tren wedi eu gohirio
Diswgyl i gynlluniau i ddymchwel hen ficerdy yn Wrecsam gael eu cymeradwyo
Cafodd cynlluniau i ddymchwel yr eiddo ar Ffordd Rhosddu, sydd wedi’i leoli rhwng eglwys Spar a St James, eu trafod gyntaf gan y cyngor yn 2013
Gŵyl newydd am ddod â phobol ynghyd i ddathlu eu milltir sgwâr
Gŵyl Bro wedi ei threfnu i lenwi’r bwlch yn sgil pryderon na fydd llawer o glybiau a chymdeithasau’n ailddechrau yr hydref hwn
Ymateb llugoer i gynllun i geisio datrys prinder gyrwyr lorïau
Galw am wella ffyrdd, a gwasanaethau i yrwyr, er mwyn gwneud swyddi’n fwy deniadol i bobol ifanc
Ailagor ffyrdd Parthau Diogel trefi Ceredigion
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn cael ei gynnal ar y Parthau Diogel yn ystod y misoedd nesaf
Galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried bwriad i dorri nifer cynghorwyr Bangor
“Nid yw llwyth gwaith cynghorwyr, fel mater o drefn, yn ymwneud yn uniongyrchol â nifer y bobl ar y gofrestr etholiadol,” medd Siân …