Mae cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i adeiladu fferm solar gwerth £2.5m wedi derbyn sêl bendith Cyngor Ceredigion.

Bydd y paneli solar yn cael eu codi ar safle pedwar hectar ger llety myfyrwyr Fferm Penglais ar gyrion y dref fel rhan o ymrwymiad y brifysgol i gyrraedd targed sero-net erbyn 2030.

Pan fydd y cynllun ar waith, bydd 25% o anghenion trydan blynyddol Campws Penglais yn cael ei ddarparu o egni adnewyddadwy, sy’n cyfateb i’r egni sy’n cael ei ddefnyddio gan 500 o gartrefi mewn blwyddyn.

Yn ystod oes y paneli, mae disgwyl y bydd y brifysgol yn arbed £18m mewn costau ynni, sydd tua £300,000 y flwyddyn.

Carbon-niwtral

Fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth ymrwymo yn 2019 i gyrraedd targed sero-net erbyn 2030, gan gynllunio i leihau’r defnydd o danwydd ffosil roedden nhw’n ei ddefnyddio.

Esbonia Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, fod y cynlluniau newydd hyn yn dangos bwriad y brifysgol.

“Mae’r cynnig i fanteisio ar ynni’r haul yn un rhan yn unig o’n hymdrechion i leihau’r ynni a ddefnyddiwn, i wella ein heffeithlonrwydd, ac i wireddu ein haddewid i fod yn garbon-niwtral erbyn 2030,” meddai.

“Mae prosiect ynni’r haul yn deillio o ymchwiliad manwl i’r cyfleoedd posib i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, a oedd yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb ar gynhyrchu ynni gwynt o felinau gwynt.

“Dyma’r prosiect mwyaf uchelgeisiol o’r prosiectau datgarboneiddio lu y mae’r Brifysgol yn gweithio arnynt, ac mae’n gwneud synnwyr o safbwynt yr amgylchedd ac yn nhermau busnes.”