Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu hannog i atal toriadau ‘anghymesur’ yn nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Bangor.
Fel rhan o gynlluniau sy’n cael eu hystyried gan Weinidogion, byddai’r newidiadau arfaethedig i’r ffiniau yn golygu bod Gwynedd yn colli chwe chynghorydd sir, gan ddod â nifer yr aelodau etholedig i lawr i 69 o’r 75 presennol.
Mae’r cynigion, a fyddai’n dod i rym ar gyfer etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf, wedi’u cyflwyno gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru er gwaethaf ymgyrch hir yn eu herbyn gan Gyngor Gwynedd ei hun.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol o fewn wythnosau, ond mae pryderon penodol wedi’u codi unwaith eto ar yr effaith “anghymesur” ar ddinas Bangor, sydd ar fin colli pedwar cynghorydd fel rhan o’r ad-drefnu.
Nifer y pleidleiswyr nad ydynt wedi’u cofrestru yn y ddinas sy’n cael y bai am yr effaith benodol ar Fangor, gyda ward Menai ar hyn o bryd yn cael ei ‘gorgynrychioli’.
Ond mewn ymgynghoriad cynharach, roedd Cyngor Dinas Bangor wedi dadlau mai ei statws arbennig fel tref brifysgol oedd y rheswm bod nifer fawr o drigolion heb gofrestru i bleidleisio – a bod angen i weision sifil ystyried hyn.
Mae’r comisiwn wedi cynnig y dylai Glyder a Dewi aros yr un fath, ond y byddai ward newydd ‘Y Faenol’ yn cynnwys ardaloedd mwy trefol na ward Pentir ar hyn o bryd.
Ond byddai gweddill y wardiau – Deiniol, Garth, Hendre, Hirael, Marchog, Menai a Phentir – i gyd yn cael eu llyncu naill ai i ardaloedd o’r enw ‘Canol Bangor’ neu ‘Dwyrain Bangor’ – gyda’r ddwy yn ethol dau gynghorydd.
Roedd hyn er gwaethaf cydnabyddiad yn yr adroddiad o alwadau gan gynghorydd Marchog, Nigel Pickavance, am gadw’r ward a’i dau aelod, oherwydd y lefelau lleol o ddifreintiedigaeth a’r llwyth gwaith cysylltiedig.
Yn ôl y Comisiwn, mae eu ffigurau’n seiliedig ar nifer yr etholwyr cofrestredig – a’u bwriad yw sicrhau cydraddoldeb o ran pleidleiswyr ar draws y sir. Y nod yw 1,208 o bleidleiswyr fesul cynghorydd ar gyfartaledd.
‘Argymhellion wedi’u seilio ar niferoedd yn unig’
Ond yn ôl Sian Gwenllian AoS, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru eto yn eu hannog i ailystyried cyn ei bod hi’n rhy hwyr, mae nifer o bryderon wedi’u codi gan ddinasyddion.
Mewn llythyr blaenorol at Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, ysgrifennodd y byddai’r camau “anghyfiawn ac annemocrataidd” yn arwain at gynrychiolaeth Bangor yn siambr y cyngor yn gostwng o un ar ddeg i saith.
Ychwanegodd Ms Gwenllian, “Mae’n ymddangos bod yr argymhellion wedi’u seilio ar niferoedd yn unig a theimlaf fod hyn yn diystyru’n llwyr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol unigryw y ddinas o ran darparu gwasanaethau lleol a llwyth gwaith cynghorwyr.
“Er enghraifft, mae Bangor yn gartref i’r bedwaredd brifysgol fwyaf yng Nghymru ac yn ystod y tymor mae poblogaeth y ddinas yn chwyddo i tua 26,000.
“Nid yw myfyrwyr o reidrwydd yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer wardiau Bangor – ond am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, maen nhw’n byw ym Mangor ac yn defnyddio gwasanaethau lleol, gan gynnwys cymorth gan eu cynrychiolwyr etholedig lleol.
“Hefyd, mae wardiau fel Marchog yn gartref i ganran uwch o drigolion difreintiedig ar incwm isel sydd, o ganlyniad, angen mwy o gymorth drwy wasanaethau cynghorau lleol a chymorth eu cynghorwyr i fynd i’r afael â materion tai, addysg a materion eraill.
“Nid yw nifer fawr o’r trigolion hyn wedi cofrestru i bleidleisio ac felly, unwaith eto, nid yw’r niferoedd ar y gofrestr etholiadol yn adlewyrchu’n gywir faint a natur y gwaith a wneir gan gynghorwyr sy’n cynrychioli’r wardiau hyn.
“Mae llawer o heriau’n codi o ganlyniad i gyfansoddiad penodol Bangor, o ran materion cymdeithasol, economaidd, addysg, tai, iechyd, yr amgylchedd ac iaith.
“Nid yw llwyth gwaith cynghorwyr, fel mater o drefn, yn ymwneud yn uniongyrchol â nifer y bobl ar y gofrestr etholiadol – ac eto mae’n ymddangos bod yr adroddiad yn seilio ei ganfyddiadau ar niferoedd yn unig.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ystyried yn ofalus bob un o adroddiadau’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol gan ystyried ei argymhellion a’r holl sylwadau a dderbyniwyd gan Weinidogion Cymru fel rhan o’r broses adolygu.”