Mae’n debyg y bydd casgliad treftadaeth Ceredigion yn cael hwb ariannol o chwarter miliwn o bunnoedd o gronfa gyfalaf Cyngor Sir Ceredigion.
Bydd gofyn i uwch gynghorwyr gefnogi’r cynnig i gyfrannu £250,000 i brosiect Perthyn, sydd werth £1.9 miliwn ac yn canolbwyntio ar greu capasiti addysgol, creu Canolfan Gasgliadau Treftadaeth Ceredigion, a gweithio gyda grwpiau i ddadansoddi pwysigrwydd y casgliadau, yn y cabinet yr wythnos nesaf (Dydd Mawrth, 7 Medi).
Mae’r prosiect yn ail gam i raglen drawsnewid dair rhan, meddai adroddiad gan y cabinet. Cafodd y rhan cyntaf, ‘Dulliau Newydd’, ei gwblhau yn 2018.
Bydd Canolfan Gasgliadau Treftadaeth Ceredigion yn rhywle lle fydd pobol yn gallu cael profiad “tu ôl i’r llen”, a dysgu am hanes 65,000 o arteffactau hanesyddol sydd yng ngofal Amgueddfa Ceredigion ac yn ymwneud â hanes lleol.
Mae’r adroddiad yn ychwanegu bod yna arddangosfa barhaol ar gyfer tua 10% o’r casgliad cyhoeddus ar hyn o bryd, a bydd y cyfleuster newydd yn cynnig mynediad at y 90% arall, yn debyg i fentrau sydd ar waith yng Nghaeredin a Birmingham.
Bydd prosiect Perthyn yn archwilio’r syniad o berthyn a gwerthoedd cymunedol gyda theithiau, gweithdai a gweithgareddau addysgol, yn ogystal â datblygu cyfleuster storio newydd.
Bydd hyn yn golygu bod Garej Stryd y Baddon, Aberystwyth a Chapel Tre’r Ddol yn wag, a bydd yr arian o werthu’r adeiladu’n debyg o gael ei osod yn erbyn cyfraniad y cyngor – sydd ei angen yn 2024/25 – yn ôl yr adroddiad sy’n galw’r rhaglen yn “werth da am arian”.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid – £1.1 miliwn – yn dod gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â £800,000 gan Lywodraeth Cymru, Ymddiriedolwyr a Sefydliadau.