Mae Archwilio Cymru yn argymell bod pob lefel o lywodraeth yn gweithredu er mwyn gwneud canol trefi’n gynaliadwy.

Mae’r pandemig wedi ychwanegu at yr heriau sy’n wynebu canol trefi, gan olygu bod angen iddyn nhw fod yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu, meddai Archwilio Cymru.

Erbyn hyn, mae un o bob saith siop ar strydoedd Cymru yn wag er i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £892.6m yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf.

Er hynny, meddai Archwilio Cymru, fe wnaeth llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ymateb yn dda i gadw pobol yn ddiogel a busnesau’n weithredol yn ystod y pandemig.

Ond maen nhw’n dweud bod yr heriau sy’n wynebu llawer o ganol trefi Cymru yn debyg i’r sefyllfa oedd yn wynebu Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd – pan wnaeth awdurdodau lleol flaenoriaethu adfywio canol trefi gan greu mannau manwerthu newydd rhwng 1950 a 1980.

Fodd bynnag, mae dewisiadau polisi yn y gorffennol, disgwyliadau newidiol defnyddwyr a datblygiadau technolegol wedi cael effaith andwyol ar ganol trefi eisoes, gyda’r pandemig wedi ychwanegu at y problemau.

Optimistiaeth

Mae adolygiadau Archwilio Cymru wedi dod i’r canfyddiad fod optimistiaeth ar gyfer dyfodol canol trefi, ond fod rhaid i gynghorau weithredu.

Er bod llawer o randdeiliaid sydd â chyfrifoldeb dros adfywio canol trefi, mae awdurdodau lleol yn allweddol, meddai.

Gall eu pwerau statudol bennu siâp ac amgylchedd canol trefi, er enghraifft drwy gynllunio, trafnidiaeth, tai a thwristiaeth.

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau lleol gorau, mae angen alinio ac integreiddio polisïau a chydweithio gydag adnoddau wedi’u blaenoriaethu ar ganol trefi.

Mae Archwilio Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu a mynd i’r afael â heriau trafnidiaeth sy’n wynebu canol trefi, ac yn awgrymu eu bod nhw’n cydgrynhoi cyllid i leihau biwrocratiaeth.

Ar gyfer awdurdodau lleol, maen nhw’n argymell defnyddio eu pwerau a’u hadnoddau, a chydweithio â chynghorau eraill i sicrhau’r canlyniad gorau posib i ganol trefi.

“Newid cyflym”

“Mae newid cyflym yn digwydd yng nghanol ein trefi ac nid yw effaith lawn Covid-19 wedi’i theimlo eto,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton.

“Nid yw blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a oedd yn edrych yn rhesymol 18 mis yn ôl bellach yn adlewyrchu’r newidiadau sy’n digwydd a’r heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw yn awr.

“Mae angen i lywodraeth genedlaethol a lleol ddarparu atebion integredig, gwneud penderfyniadau dewr a darparu arweiniad beiddgar ac uchelgeisiol os ydym am fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu canol ein trefi.”