Mae cofnodion Clybiau Plant Cymru yn dangos bod 19% o glybiau gofal tu allan i’r ysgol Cymru wedi cau’n barhaol ers mis Mawrth 2020.

Mae hynny’n gyfystyr â 169 o leoliadau, ac mae angen gweithredu ar frys i achub clybiau gofal, meddai’r elusen.

Yn ôl adroddiad diweddaraf yr elusen, roedd y rhesymau dros gau yn cynnwys bod dim digon o niferoedd, dim digon o staff, neu eu bod nhw’n cael eu gorfodi i gau gan yr awdurdod lleol.

Yn ogystal, dangosa arolwg gan Glybiau Plant Cymru bod 17% o glybiau gofal plant tu allan i’r ysgol ar gau dros dro, a hynny’n cynnwys darparwyr sydd heb eu cofrestru megis clybiau gweithgareddau gan ysgolion a chlybiau chwaraeon.

Ac roedd 19% o’r sefydliadau hynny yn dweud eu bod nhw ar gau gan nad oes ganddyn nhw fynediad i ganolfan, a hynny gan amlaf yn ymwneud â lleoliadau mewn ysgolion lle mae’r canllawiau ar gyfer ysgolion a chanllawiau gofal plant wedi bod yn wahanol.

“Testun pryder”

Mae’n “destun pryder” bod dros draean (35%) o’r sefydliadau sydd dal ar gau yn ansicr ynghylch pryd y byddan nhw’n gallu ailagor, yn enwedig gan y bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y pandemig yn dod i ben y mis hwn, meddai Clybiau Plant Cymru.

Yn ôl yr elusen, mae profiadau blaenorol yn dangos nad yw lleoliadau sydd heb agor ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn gwneud cystal o ran niferoedd.

Nododd llawer o leoliadau mai’r rheswm dros yr ansicrwydd yw diffyg cadarnhad gan landlordiaid (ysgolion mewn llawer o achosion) ynghylch pryd y bydden nhw’n cael dychwelyd.

Mewn rhai achosion, y rheswm am yr ansicrwydd yw pryderon ynghylch cynaliadwyedd a niferoedd, gyda nifer o rieni/gofalwyr yn ansicr beth fydd eu sefyllfaoedd gwaith yn yr hydref.

Pe bai ffactorau sy’n gysylltiedig â’r pandemig yn parhau, mae 24% o leoliadau yn rhagweld y byddai’n rhaid cau’n barhaol.

Dywedodd 42% y byddai’n rhaid codi ffioedd uwch pe bai’r ffactorau hyn yn parhau.

Yn ôl yr arolwg, dywedodd 23% y byddai’n rhaid cau elfennau o’r gwasanaeth, dywedodd 27% y byddai’n rhaid lleihau diwrnodau neu oriau, a dywedodd 21% y byddai’n rhaid lleihau nifer y lleoedd fydd yn cael eu cynnig.

Yn ôl 22%, byddai’n rhaid diswyddo staff, a byddai rhaid i 39% recriwtio staff newydd oherwydd bod gweithwyr yn gadael.

Argymhellion

Mae Clybiau Plant Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, rhieni/gofalwyr, a chymunedau i gefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol er mwyn adfywio cymunedau a sicrhau argaeledd parhaus at gyfleoedd chwarae wedi’u rheoleiddio i blant.

Maen nhw’n galw am wneud hyn drwy roi rhybudd digonol ynghylch unrhyw ganllawiau sy’n gysylltiedig â Covid-19, i alluogi ysgolion, landlordiaid a darparwyr gofal plant wneud penderfyniadau amserol a gwybodus ar y cyd.

Ymhlith argymhellion eu hadroddiad, maen nhw’n galw am gyllid grant i gynnal clybiau presennol, ailgyflwyno clybiau a gollwyd, cadw gymaint o staff â phosib, cadw ffioedd yn fforddiadwy a chefnogi parhad o ran sicrhau cymwysterau i staff newydd.

Ar hyn o bryd, mae Clybiau Plant Cymru yn cefnogi dros 1,500 o glybiau dros Gymru, sy’n darparu dros 44,000 o leoedd gofal plant a hyd at 5,000 o swyddi.