Mae Cerddinen Wen y Fenai (Menai Whitebeam) wedi’i enwi ymysg y coed sydd mewn perygl o farw allan.

Dim ond 30 o’r math yma o goed sy’n dal i dyfu yng ngogledd Cymru, ei hardal frodorol.

Roedd astudiaeth o holl goed y byd gan yr elusen fotaneg BGCI (Botanic Gardens Conservation International) yn dangos bod 30% o rywogaethau coed – tua 17,500 ohonynt – mewn risg o ddiflannu.

Mae coed fel derw a masarn hefyd yn cael eu nodi fel rhai sydd mewn rhywfaint o berygl.

Y peryglon mwyaf i goed yw datgoedwigo, yn enwedig er mwyn cael pren, neu i wneud lle ar gyfer tir amaethyddol, a newid hinsawdd.

Mae’n debyg bod un mewn pum rhywogaeth o goed yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan bobl – yn enwedig ar gyfer bwyd, tanwydd a deunydd.

Rhybudd

Dywedodd Paul Smith, ysgrifennydd cyffredinol y BGCI, bod yr adroddiad yn rhybudd i bobl am gyflwr presennol holl goed y byd.

“Mae’r adroddiad hwn yn galw ar bawb ledled y byd i sylwi bod angen help ar goed,” meddai.

“Mae pob math o goed yn bwysig – i’r miliynau o rywogaethau eraill sy’n dibynnu ar goed, ac i bobl ledled y byd.

“Am y tro cyntaf, diolch i’r wybodaeth sy’n cael ei ddarparu gan yr adroddiad o gyflwr coed y byd, rydyn ni’n gallu nodi’n union pa rywogaethau coed sydd angen ein help.

“Felly, gall y rhai sy’n llunio polisïau ac arbenigwyr cadwraeth ddefnyddio’r adnoddau a’r arbenigedd sydd ei angen arnyn nhw i atal coed rhag marw allan yn y dyfodol.”