Y penwythnos hwn bydd y cyntaf o dros 20 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal fel rhan o Gŵyl Bro.

Mae’r ŵyl newydd hon wedi ei threfnu i lenwi’r bwlch yn sgil pryderon na fydd llawer o glybiau a chymdeithasau’n ailddechrau yr hydref hwn ac oherwydd bod arweinwyr arferol yn colli’r arwydd i drefnu, ac yn ofni’r baich o gymryd cyfrifoldeb dros gadw pawb yn ddiogel.

Oherwydd hynny bydd Gŵyl Bro yn cael ei chynnal gyda chymunedau ledled Cymru yn bwrw ati i ailgynnau diwylliant, dod â phobol ynghyd yn lleol a lleihau unigedd.

Gŵyl newydd sy’n gwahodd cymunedau i gynnal gweithgareddau a dathlu eu milltir sgwâr yw Gŵyl Bro.

Mae’n rhan o ddatblygiadau Bro360, sef cynllun cwmni Golwg i annog cymunedau i greu a rhannu straeon lleol.

‘Jengyd’

Ymhlith y digwyddiadau amrywiol fydd yn cael eu cynnal mae teithau tywys trwy’r fro, gig i roi llwyfan i artistiaid lleol, gweithdai celf a barddoniaeth i blant, ac Escape Room newydd sbon o’r enw Jengyd!

Enfys Hatcher Davies yw un o drefnwyr y stafell ‘Jengyd’ yn Llanddewi Brefi, fydd yn mynd â thrigolion lleol i fyd Operation Julie – y cyrch cyffuriau enfawr o’r 70au.

Meddai Enfys: “Chwilio am rywbeth gwahanol i wneud o’n ni, sydd ddim yn dibynnu ar y tywydd – do’n ni ddim ishe canslo oherwydd glaw! Mae’n arbrawf bach hefyd i weld os oes diddordeb yn y math hyn o beth, ac os bydd yn llwyddiannus, falle ewn ni ati i greu rhywbeth mwy parhaol yn y dyfodol… cawn weld,” medd Enfys.

Prynhawn cymdeithasol yn y llyfrgell planhigion newydd fydd ymlaen yn Gerlan, Bethesda a chyfle i siapio datblygiadau nesaf y safle ffeirio.

Meddai Dani Schlick, un o’r trefnwyr: “Nod y digwyddiad ydy dod â’r gymuned at ei gilydd, cynnwys pobl yn y prosiect bach a chael ei syniadau sut furlun hoffent ei weld ar y wal.”

Diogel

Mae’n esiampl da i ddangos nad oes yn rhaid cynnal rhywbeth mawr er mwyn dod â phobol ynghyd.

“Aethon ni ati i drefnu’n eithaf syml – penderfynu ar amser hwylus, gofyn i gerddor lleol gyfrannu cân neu ddwy a hysbysebu’n lleol,” ychwanegodd.

Dywedodd cydlynydd Bro360 Lowri Jones: “Ry’n ni’n ofnadwy o falch bod pobol wedi bwrw ati i ddefnyddio Gŵyl Bro fel cyfle i gamu mlaen o Covid.

“Ein gobaith yw y bydd yn rhoi’r hyder i drefnwyr a chymunedau barhau i gynnal pethau’n ddiogel. Mae creu cyfleoedd i ddod at ein gilydd yn bwysicach nag erioed, nid yn unig i gynnal diwylliant, ond i leihau unigedd yn y cyfnod yma.”

Cenhadaeth

Yn ogystal â chreu cyfle i ddod ynghyd, mae brolio bro hefyd yn rhan o genhadaeth yr Ŵyl.

I gyd-fynd â’r pecyn llawn adnoddau, bydd gweithdy arbennig yn cael ei gynnal nos Fercher 1 Medi gan Owain Llŷr o gwmni Gweledigaeth.

Bydd y cynhyrchydd profiadol yn rhannu syniadau ar sut i ddarlledu a chreu cynnwys difyr o ddigwyddiadau byw, ac mae’r gweithdy am ddim ac ar gael i bawb. (Cofrestru yma.)

Gall pawb fynd i calendr.360.cymru i weld os oes Gŵyl yn lleol i chi, ac ymweld â gwefan Bro360 ni fwynhau straeon o’r digwyddiadau drwy gydol y penwythnos.