Mae dros fil o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau rhai o lefydd bwyta tu allan yn Nolgellau.
Drwy gydol y pandemig, mae busnesau wedi bod yn defnyddio rhannau o lefydd parcio yn y dref er mwyn gweini bwyd yn yr awyr agored.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd gais i wagio’r safleoedd fel bod modd i geir eu defnyddio eto, ond mae hynny wedi derbyn ymateb chwyrn.
Dywed Branwen Rhys Dafydd o Gyngor Tref Dolgellau bod busnesau yng nghanol y dref wedi dechrau defnyddio mannau cyhoeddus er mwyn gweini bwyd tu allan yn ystod y pandemig.
“Er mwyn sticio i ganllawiau’r Llywodraeth, roedd hi’n saffach i weini tu allan,” meddai wrth golwg360.
Normalrwydd
“Erbyn hyn, mae rhai o’r busnesau hyn wedi ailstrwythuro sut maen nhw’n mynd ati i gynnal eu hunain drwy godi marcîs neu gazebos pwrpasol i alluogi pobl eistedd tu allan.
“Maen nhw wedi derbyn cais gan Gyngor Gwynedd, sydd eisiau hawlio’n ôl y llefydd cyhoeddus lle mae ceir yn gallu mynd.
“Gan fod Cyngor Gwynedd eisiau mynd yn ôl i ryw fath o ‘normalrwydd’ fel petai, a hithau’n gychwyn tymor ysgol, maen nhw wedi gofyn i’r busnesau dynnu’r strwythurau hyn i lawr.”
Roedd Cyngor Gwynedd wedi gofyn i fusnesau gael gwared â strwythurau awyr agored o lefydd parcio erbyn dydd Mercher, 1 Medi.
Tu fewn
Doedd strwythurau heb eu tynnu i lawr am hanner dydd y diwrnod hwnnw.
Fe wnaeth Llinos Rowlands, perchennog caffi Gwin Dylanwad yng nghanol y dref, ddechrau deiseb yn erbyn y penderfyniad, ac mae hi wedi cael dros fil o bobl yn arwyddo dwy ddeiseb – un ar-lein ac un ar bapur.
“Ar y funud mae Covid yn uwch na mae wedi bod erioed yn Nolgellau, a dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim eisiau bod tu fewn” meddai wrth golwg360.
“Mae adeiladau Dolgellau’n fach ac yn hen, felly does yna ddim posib i droi awyr iach o gwmpas y llefydd hyn, sy’n amlwg yn broblem [i atal lledaenu].
“Hefyd, mae’n bwysig i fusnesau allu gwneud rhywfaint o arian – do, fe gawson ni haf prysur, ond dydy hynny ddim yn cychwyn gwneud fyny am y problemau sydd wedi bod ac sydd ar ddod.
“Wrth gwrs, dw i ddim eisiau lladd ar swyddogion sir, ond mae hyn yn gamgymeriad.
“Mae angen ymestyn [y cynllun] ymlaen i flwyddyn nesaf, achos rydyn ni’n bell o gyrraedd diwedd y pandemig.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ei bod hi’n amser ailagor y strydoedd yn dilyn gwyliau’r haf.
“Gyda gwyliau’r ysgol bellach yn dod i ben, ac ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynwyd mai nawr yw’r amser cywir i gysylltu â busnesau i ofyn iddynt dynnu eu cyfleusterau o’r briffordd gyhoeddus,” meddai.
“Rydym wedi cael gwybod gan gynghorwyr Dolgellau fod y penderfyniad yma wedi arwain at bryderon yn cael eu lleisio’n lleol am yr effaith bosib ar fusnesau lletygarwch yn y dref.
“Ar gais Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, byddwn yn trefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr lleol dros y dyddiau nesaf i drafod y pryderon hyn.”