Bydd partneriaeth newydd yn troi eiddo eglwysig segur yn dai er mwyn ymateb i’r argyfwng cartrefi fforddiadwy.

Mae elusen Cyfiawnder Tai Cymru wedi dewis cydweithio â Grŵp Cynefin i geisio troi eglwysi a chapeli segur yn gartrefi ar gyfer pobol leol.

Gwaith Cyfiawnder Tai Cymru yw darparu cefnogaeth a chyngor i eglwysi sydd am ddatblygu o fewn y sector tai a digartrefedd.

Mae deuddeg o leoliadau yn y Gogledd wedi’u clustnodi ar gyfer eu datblygu dan y bartneriaeth.

Safleoedd

Mae Rhaglen Tai Fforddiadwy genedlaethol yr elusen wedi cynorthwyo’r gwaith o adeiladu tua 100 o gartrefi ers dechrau’r rhaglen yn 2016, gyda 200 arall ar y gweill.

Mae’r mwyafrif wedi’u hadeiladu mewn datblygiadau bychan o rhwng pump a saith eiddo ar safleoedd tir llwyd a fu’n eiddo i’r eglwys.

Hyd yn hyn, mae Cyfiawnder Tai Cymru wedi gweithio gyda thua 25 o wahanol grwpiau, ond drwy weithio gyda llai o bartneriaid, maen nhw’n credu y gallen nhw wneud cynnydd sylweddol yn nifer y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu.

Ar hyn o bryd, mae tri safle wedi’u nodi yng Ngwynedd, tair yng Nghonwy, a dau yr un yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Grŵp Cynefin ac Adra fydd y partneriaid datblygu newydd ar gyfer prosiect tai fforddiadwy cenedlaethol Cyfiawnder Tai Cymru yn y siroedd hynny yn y gogledd, gyda phartneriaid eraill yn cydweithio â’r elusen yng ngweddill y wlad.

“Pawb yn haeddu cartref”

Cafodd Cyfiawnder Tai Cymru ei ffurfio yn 2003 pan unodd dwy gymdeithas grefyddol, y Catholic Housing Aid Society a’r Churches’ National Housing Coalition.

Yn 2006, ehangodd yr elusen pan unodd â Church Action on Homeless yn Llundain.

Cyfiawnder Tai Cymru yw’r gangen yng Nghymru, a chyn-Archesgob Cymru, yr Esgob John Davies, yw’r Cadeirydd.

“Mae hwn yn gyfle gwych i eglwysi a chymdeithasau tai weithio gyda’i gilydd mewn ffordd gadarnhaol i helpu datrys un o broblemau cymdeithasol mawr ein hoes,” meddai’r Esgob John Davies.

“Mae pawb yn haeddu cartref, a gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn datblygu mwy o gartrefi i’r bobl hynny sydd â’r angen mwyaf yma yng Nghymru.”

“Gwerthoedd cywir”

“Yn dilyn ymgynghori â’r sector tai cymdeithasol, y neges allweddol oedd y dylai unrhyw broses i nodi partneriaid datblygu yn y dyfodol fod yn dryloyw ac yn deg,” meddai Bonnie Navarro, cyfarwyddwr tai Cyfiawnder Tai Cymru.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod eisiau gweithio gyda’r sefydliadau tai hynny sydd â’r sgiliau a’r gallu ariannol i adeiladu tai newydd, ond hefyd rhai sydd â’r gwerthoedd cywir i gynorthwyo’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

“Rhywbeth y byddai pob sefydliad Cristnogol yn ei gefnogi.”

“Mae argyfwng tai ledled Gogledd Cymru ac rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Adra a Cyfiawnder Tai Cymru i gwrdd â’r heriau enfawr sydd yn y maes ac yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae ail gartrefi wedi gwaethygu’r broblem yn y sector dai,” ychwanegodd Gwyndaf Williams, rheolwr datblygu Grŵp Cynefin.

Marchnad dai Gwynedd ymysg y rhai sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig

Nifer yr arolygiadau tai – sy’n cael eu gwneud cyn i ddarpar brynwr brynu tŷ – wedi cynyddu 394.37% yng Ngwynedd ers 2020, yn ôl data Property Inspect