Sylw rhyngwladol i ffatri gaws newydd gwerth £20m ar Ynys Môn
Bydd ffatri Mona Dairy yn cynhyrchu 7,000 tunnell o gaws y flwyddyn ar ôl iddi agor yn y Gwanwyn
Datgelu lleoliad cerflun Cranogwen yn Llangrannog
Bydd y cerflun yn cael ei godi yng Ngardd Goffa’r pentref, ddim yn bell o’r fan lle cafodd hi ei chladdu
Pob disgybl yng Ngheredigion i gael addysg drochi Gymraeg nes y byddan nhw’n saith oed
Dyna yw un o amcanion Cyngor Sir Ceredigion yn eu Cynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg rhwng 2022 a 2032
Datgelu cynlluniau ar gyfer tai cyngor newydd ym Mangor
Dyma fydd y tai cyntaf i gael eu hadeiladu gan Gyngor Gwynedd mewn 30 mlynedd
Rhybudd gan yr heddlu yn dilyn achosion diweddar o sbeicio ym Mangor
Daeth sawl honiad yr wythnos hon o sbeicio yng nghlwb nos Cube yng nghanol y ddinas
Cost adeiladu ysgol Gymraeg yn Sir Benfro yn fwy na dwbl yr amcangyfrif gwreiddiol
Mae gwaith ychwanegol ar y safle a chwyddiant yng nghostau adeiladu wedi golygu bod y gost wedi cynyddu o £6.7 miliwn i oddeutu £14 miliwn
Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion am roi’r gorau iddi ar ôl etholiadau mis Mai
Mae Ellen ap Gwynn wedi arwain Grŵp Plaid Cymru’r cyngor ers 2007, ac fe ddaeth hi’n arweinydd ar yr awdurdod lleol yn 2012
Tân dros nos ar stad ddiwydiannol yng Nghaernarfon
Mae’r tân ar stad Cibyn wedi cael ei ddiffodd erbyn hyn, ac mae’r safle “bellach yn tampio lawr”
Prifysgol Aberystwyth yn cael cydnabyddiaeth am hyrwyddo cynhwysiant
Mae elusen Stonewall wedi gwobrwyo’r Brifysgol gyda Gwobr Efydd am ddarparu amgylchedd gynhwysol i staff a myfyrwyr
Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn argymhell cynnydd llai na’r disgwyl ar gyfer trethi
Er iddyn nhw gynnig cynnydd o 4.75% i ddechrau, y cynnig diweddaraf gan y cabinet yw 2.5%