Bydd treth y cyngor yng Ngheredigion ddim yn cynyddu cymaint â’r disgwyl ar ôl i’r awdurdod lleol dderbyn cyllid munud olaf gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y cyngor wybod wythnos diwethaf y byddan nhw’n derbyn £1.1 miliwn yn ychwanegol gan y llywodraeth i ddelio gyda’r argyfwng costau byw yn y sir.

Yn sgil y cyllid newydd, mae’r cabinet nawr yn bwriadu cynyddu treth y cyngor yn 2022/23 o ddim ond 2.5%, ar ôl i gynnydd o 4.75% gael ei grybwyll ganddyn nhw yn flaenorol.

Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, y byddan nhw’n lleihau’r cynnydd oherwydd y “pwysau ariannol ychwanegol sydd wedi ei roi ar drigolion,” yn sgil chwyddiant, costau byw cynyddol, a’r codiad yn nhreth yswiriant gwladol o fis Ebrill ymlaen.

Lleihau pwysau

Fe wnaeth y cabinet gymeradwyo’r argymhelliad newydd mewn cyfarfod ddydd Mawrth (22 Chwefror), gan gefnogi “dull pragmatig i liniaru pwysau ar drigolion yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.”

Roedd y pwyllgor craffu eisoes wedi cefnogi hyn yr wythnos diwethaf, er i’r Cynghorydd Keith Evans rybuddio y gallai “roi mwy o bwysau ar y weinyddiaeth nesaf.”

Wrth ystyried y cynlluniau diweddaraf, byddai cynnydd o 2.5% yn gweld eiddo ym Mand D yn talu £1,447.90 yn nhreth y cyngor, gan godi o £1,412.59 yn 2021/22.

Bydd cynyddu rhai ffioedd hefyd yn cael eu hargymell i’r cyngor llawn yn y cyfarfod ar 3 Mawrth er mwyn cyfateb i’r chwyddiant presennol.

Yn ogystal, bydd trafodaethau pellach dros beidio â chynyddu taliadau parcio ceir yn Llambed a Llandysul, a gwaith pellach ynghylch cychod penodol.