Mae ffatri gaws newydd ar Ynys Môn wedi derbyn sylw rhyngwladol cyn yr agoriad yn y gwanwyn.

Bydd y datblygiad gwerth £20m gan gwmni Mona Dairy yn gweld 7,000 tunnell o gaws Cymreig a chyfandirol yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn.

Wedi ei sefydlu ar safle 25,000 troedfedd sgwâr, fe fydd y ffatri newydd ym Mharc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai yn un o’r rhai mwyaf modern yn Ewrop.

Fel rhan o’r datblygiad, bydd 100 o swyddi’n cael eu creu i gyd, ac fe fydd yn gyfleuster carbon niwtral sy’n rhedeg yn llwyr ar ynni adnewyddadwy.

Yr Aelod Seneddol Virginia Crosbie a’r Uwch Gomisiynydd George Brandis

‘Gosod safonau newydd’

Ychydig wythnosau ar ôl llofnodi cytundeb masnach gyda’r Deyrnas Unedig, fe wnaeth llysgennad o Awstralia ymweld â’r ffatri yn ddiweddar gydag Aelod Seneddol yr ynys, Virginia Crosbie.

Fe wnaeth George Brandis, Uwch Gomisiynydd Awstralia i’r Deyrnas Unedig, longyfarch y datblygwyr am ddod â’r cynllun yn fyw.

“Un o enillwyr mawr y cytundeb masnach hwn yw’r sector bwyd wedi’i brosesu,” meddai.

“Bydd cawsiau Cymreig sy’n cael eu cynhyrchu o laeth fferm o Gymru yn un o’r rhai sy’n buddio o’r fargen, felly mae cyfleoedd ar gael i’w manteisio arnynt.”

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol Virginia Crosbie y byddai’r cwmni yn “gosod safonau newydd ar gyfer y diwydiant ledled y byd”, a’i bod hi’n “aruthrol” gweld menter flaenllaw a chynaliadwy yn datblygu ar yr ynys.

Arloesi

Arweinydd y datblygiad a Rheolwr Gyfarwyddwr Mona Dairy yw Ronald Akkerman o’r Iseldiroedd.

Dywed y bydd y prosiect yn plethu dulliau traddodiadol ac arloesol i gynhyrchu cawsiau Iseldireg fel Edam a Gouda, yn ogystal â chawsiau artisan sy’n defnyddio llefrith lleol.

“Y ffatri hon yw’r datblygiad mwyaf yn y sector bwyd yn ddiweddar ac mae’n denu llawer iawn o ddiddordeb o bob rhan o’r diwydiant yn fyd-eang,” meddai.

Ronald Akkerman

“Mae’n gyffrous iawn gallu tywys pobol o amgylch y ffatri nawr gan ei bod ar fin cael ei chwblhau.

“Rydyn ni’n diolch i Mr Brandis a Mrs Crosbie am ddod i weld drostyn nhw eu hunain pa mor arloesol yw hwn i ni, y rhanbarth a’r sector llaeth.”

Gwerthoedd y cwmni

Yn ôl Ronald Akkerman, egwyddorion craidd Mona Dairy yw cynnig bargen well, deg a thryloyw i ffermwyr, gan ddatblygu safonau cynaliadwy ac ecogyfeillgar yn eu harferion.

“Rydyn ni eisiau gwneud hyn oherwydd nid yn unig ei fod yn hanfodol i’r amgylchedd, mae yna hefyd lawer mwy o alw gan ddefnyddwyr am frandiau sydd â safonau cynaliadwy,” meddai.

“Fe allwn ni gyflawni hynny, gan fod ein cyfleuster cynhyrchu mewn sefyllfa dda i roi mantais gystadleuol fyd-eang i’r cynhyrchion sy’n cael eu creu yma.

“Mae’n gyfnod cyffrous i ni ac i’r diwydiant, a dydyn ni ddim yn gallu aros i’r broses ddechrau.”