Mae dinas Bangor wedi ei datgelu fel lleoliad tai cyngor cyntaf Cyngor Gwynedd ers dros 30 mlynedd.

Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd y Cyngor, bydd y datblygiad tai yn cael ei adeiladu ar safle hen ysgol fabanod Coed Mawr, a gafodd ei chau yn 2011.

Bwriad y cyngor yw adeiladu chwech o dai tair ystafell wely a phedwar tŷ dwy ystafell wely ar y safle yn ardal Glanadda.

Y gobaith yw y bydd y tai ar gael i’w rhentu neu eu prynu erbyn diwedd 2023, yn ôl yr Adran Tai ac Eiddo, ond yn gyntaf, bydd rhaid cwblhau ymgynghoriad statudol a sicrhau hawliau cynllunio ar gyfer y cynllun.

‘Cyfarch anghenion’

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu adeiladu tai cyngor fforddiadwy canolraddol ar draws y sir drwy gynllun Tŷ Gwynedd, er mwyn sicrhau bod pobol sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu ac sydd ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol yn cael to uwch eu pennau.

“Y datblygiad cyffrous yma yng Nghoed Mawr ym Mangor ydi’r cyntaf o gynlluniau Tŷ Gwynedd,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd.

“Mae’r ffigyrau yn dangos yn glir fod yna angen gwirioneddol am y math yma o dai fforddiadwy canolradd yn yr ardal – ac rydyn ni’n awyddus i glywed barn pobol leol am y cynlluniau cychwynnol.

“Bydd y sylwadau yn ein helpu wrth gwblhau’r cynlluniau a chyflwyno ceisiadau cynllunio yn nes ymlaen eleni, ac os bydd hawliau’n cael eu sicrhau, rydyn ni’n gobeithio y bydd y tai cyntaf yn barod yn ystod 2023.

“Felly, os oes gennych chi ddiddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg ar y cynlluniau ac yn rhannu eich barn.

“Dyma’r cyntaf o sawl cynllun Tŷ Gwynedd fydd yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf wrth i ni ddatblygu tai sy’n cyfarch anghenion pobol y sir.”

‘Taclo’r anghyfiawnder’

Dywed y Cynghorydd Craig ab Iago, sy’n cynrychioli ward Llanllyfni, fod cael mynediad at gartref fforddiadwy o safon “yn hawl greiddiol i bob person”.

“Yn anffodus, yn y sefyllfa bresennol mae gormod o bobol Gwynedd yn cael eu prisio allan o allu fforddio i rentu eiddo neu brynu eu tai eu hunain,” meddai.

“Er mwyn taclo’r anghyfiawnder yma, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y sir sy’n cynnwys dros 30 o gynlluniau fydd yn darparu 1,500 o gartrefi o safon i bobl y sir dros y pum mlynedd nesaf.

“Byddwn yn defnyddio cyllid sy’n cynnwys y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag i adeiladu tai newydd, prynu eiddo gwag a’u hadfer ynghyd a chynnig grantiau i bobol leol allu cael mynediad at dai.”

Gall unrhyw un sy’n awyddus i gofrestru diddordeb am y cynlluniau newydd ym Mangor ymweld â’r dudalen ar wefan Cyngor Gwynedd.

Cyngor Gwynedd i adeiladu hyd at 100 o dai fforddiadwy newydd

Dywed y Cyngor mai dyma’r tro cyntaf ers 30 mlynedd iddyn nhw ddarparu tai yn uniongyrchol i bobol allu eu prynu neu eu rhentu