Mae cynllun wedi ei lansio yng Ngwynedd i adeiladu tai cyngor fforddiadwy i drigolion lleol sy’n ei chael hi’n anodd dringo ar yr ysgol dai.

Drwy’r cynllun Tŷ Gwynedd, sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor, mae disgwyl i hyd at 100 o gartrefi newydd gael eu hadeiladu dros y blynyddoedd nesaf.

Dyma fydd y tro cyntaf ers 30 mlynedd i’r awdurdod lleol adeiladu tai cyngor newydd i drigolion y sir, a dywed yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai eu bod nhw’n “benderfynol” o fynd i’r afael â’r argyfwng yn lleol.

Fe fydd y tai fforddiadwy canolraddol yn cael eu cynnig i unigolion cymwys sy’n methu â phrynu neu rentu dy ar y farchnad agored, ac sy’n anghymwys i fyw mewn tŷ cymdeithasol.

Dywed y Cyngor y byddan nhw’n gweithredu’r cynllun drwy ymrwymo i gadw at bum egwyddor, sef adeiladu tai fforddiadwy, addasadwy a chynaliadwy, sy’n hyrwyddo iechyd a lles trigolion a’n effeithiol o ran cyflenwad ynni.

Maen nhw’n gobeithio y bydd rhan gyntaf o’r datblygiad yn cael eu cwblhau erbyn 2023.

‘Y gwir plaen ydi ein bod ni mewn argyfwng tai’

Mae prosiect Tŷ Gwynedd yn un o’r prosiectau amrywiol sy’n cael eu darparu o dan Gynllun Gweithredu Tai’r Cyngor.

Bydd yr holl brosiectau hynny yn gwella mynediad trigolion lleol at gartrefi sydd o fewn eu cyrraedd.

Y Cynghorydd Craig ab Iago yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Tai, ac mae’n dweud y bydd y cynllun newydd yn “sicrhau cymunedau ffyniannus i’r dyfodol”.

“Ein bwriad wrth fuddsoddi yng Nghynllun Gweithredu Tai Gwynedd ydi sicrhau fod pobol leol yn gallu cael mynediad at dai addas, gwyrdd a fforddiadwy yn eu cymunedau,” meddai.

Y Cynghorydd Craig ab Iago

“Y gwir plaen ydi ein bod ni mewn argyfwng tai sy’n peryglu dyfodol cymunedau Gwynedd. Sefyllfa lle mae pobol leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad – ac rydyn ni fel Cyngor yn benderfynol o newid hyn.

“Dyna pam ein bod ni’n cymryd y cam cadarnhaol yma o adeiladu tai newydd ein hunain a fydd yn cynnig cartref am oes i deuluoedd Gwynedd.

“Nid yn unig mae’n dangos ein gweledigaeth i sicrhau cymunedau ffyniannus i’r dyfodol, ond yn bwysicach na hynny rydyn ni’n rhoi’r ymrwymiad yna ar waith.”

‘Gwneud gwahaniaeth go iawn’

Bydd y manylion cyntaf ynglŷn â’r cynllun yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnos nesaf.

“Trwy gynllun arloesol Tŷ Gwynedd, bydd y Cyngor yn mynd ati i wneud gwahaniaeth go iawn yn y farchnad dai leol wrth adeiladu tai modern o ansawdd fydd yn cynnig cartrefi i bobl Gwynedd ar draws y sir,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago wedyn.

“Bydd ‘Tŷ Gwynedd’ yn cynnig cartref ynni effeithlon a fydd yn fforddiadwy i’w gynnal i’r dyfodol ar sail rhan-ecwiti neu rent fydd yn fforddiadwy.

“Bydd y tai wedi eu dylunio mewn ffordd y bydd modd eu haddasu – wrth i amgylchiadau pobol neu deuluoedd newid, bydd ‘Tŷ Gwynedd’ yn cynnig opsiynau i addasu fel mae anghenion yr aelwyd yn newid.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gyhoeddi manylion am y datblygiadau ‘Tŷ Gwynedd’ cyntaf dros yr wythnosau nesaf.”

Mae’r Cyngor yn annog pobol i gofrestru diddordeb ar eu gwefan.

Dywed Craig ab Iago y bydd yr holl wybodaeth yn eu helpu i weld ym mha gymunedau mae’r galw ar ei uchaf ac i weld pa fath o dai sydd eu hangen.