Mae lefelau tlodi yng Ngheredigion wedi cael eu galw’n “ffiaidd”, wrth i gynghorwyr frwydro’n ôl yn erbyn awgrym i godi treth y cyngor.

Mae cynghorwyr wedi bod trafod yr elfennau o gyllideb ddrafft 2022/23 sy’n manylu ar ofal cymdeithasol, llesiant a gwasanaethau cymdeithasol mewn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Chwefror 14).

Yn ystod y cyfarfod hwnnw, dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet ar gyfer Porth Cynnal, fod gofal cymdeithasol o dan bwysau mawr, sydd wedi “gwaethygu” ymhob rhan o’r wlad ers y pandemig.

Mae’n debyg mai ffactorau ariannol sy’n effeithio ar y sector fwyaf, ond mae rhestrau aros am ofal yn y cartref hefyd wedi ymestyn, yn ogystal â chynnydd yn y plant sy’n derbyn gofal yn y sir.

Er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol sydd ar draws yr awdurdod, fe gynigiodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones gynyddu treth y cyngor o 5%, yn hytrach na’r 4.75% sy’n cael ei gynnig yn y gyllideb ddrafft ar hyn o bryd.

Gwrthwynebiad

Wrth ymateb i hynny, dywedodd y Cynghorydd Elaine Evans fod pobol yn ei chael hi “bron yn amhosib cael dau ben llinyn ynghyd”, a’i bod hi’n gwrthod cefnogi cynyddu treth y cyngor o gwbl.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marc Davies at y lefelau “ffiaidd” o dlodi sy’n wynebu Ceredigion ar hyn o bryd.

Fe ddywedodd ei bod hi’n hawdd awgrymu codiadau, ond “does gan bobol ddim yr arian” i ddelio â’r cynnydd, ac y dylai’r Cyngor wneud arbedion pellach er mwyn adfer yr arian.

Rhoddodd sylw hefyd i’r ffaith fod cynlluniau ar y gweill i godi cyflogau cynghorwyr sir – ar adeg lle mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn codi trethi’r cyngor.

Mae pob awdurdod wedi derbyn setliad ariannol i ddelio â’r costau ychwanegol sydd wedi deillio o’r pandemig.

Wrth ystyried hynny, bydd £119.4m yn cael ei ddarparu fel refeniw gan y llywodraeth eleni, sy’n gynnydd o 8.6%.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, cyfanswm cost pob gwasanaeth yw £13.1m, gyda chyllideb gyffredinol yn £13.1m.

Fe bleidleisiodd y pwyllgor yn erbyn cynnydd o 5% i dreth y cyngor, ond fe gefnogodd yr argymhelliad presennol o 4.75%.