Mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, yn dweud y dylai rhywun “o’r tu allan i’r Met” olynu’r Fonesig Cressida Dick fel Comisiynydd Heddlu Llundain.

Mae Cressida Dick yn gadael ei rôl ar ôl cyfres o sgandalau niweidiol.

Dywedodd nad oedd ganddi “ddim dewis” ar ôl i Sadiq Khan, Maer Llundain, ei gwneud yn glir iddi nad oedd ganddo hyder yn ei harweinyddiaeth.

Yr wythnos ddiwethaf, canfu corff gwarchod yr heddlu agweddau gwreig-gasaol “gwarthus”, gwahaniaethu ac aflonyddu rhywiol ymhlith swyddogion yr heddlu.

Roedd y Fonesig Cressida, y fenyw gyntaf i arwain heddlu mwya’r Deyrnas Unedig, hefyd yn wynebu beirniadaeth dros achos Sarah Everard, a gafodd ei llofruddio gan blismon.

‘Synnu ei bod hi wedi para mor hir’

“I fod yn onest, dw i’n synnu ei bod hi wedi para mor hir ar ôl beth ddigwyddodd i Sarah Everard,” meddai wrth golwg360.

“A ro’n i’n synnu bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi ymestyn ei chytundeb hi flwyddyn ddiwethaf.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi wedi cael y sac, wedi penderfynu ymddiswyddo mae hi oherwydd ei bod hi’n gwybod bod ei hymateb hi i ofidion y Maer Sadiq Khan ddim yn addas.

“O ddarllen rhwng y llinellau, dw i’n teimlo bod y Llywodraeth a’r Swyddfa Gartref yn cytuno efo Sadiq Khan ond eu bod nhw ddim yn dangos hynny yn gyhoeddus.

“Ond mi ydw i’n meddwl ei bod hi’n amser i chwilio am rywun o’r tu allan i’r Met.

“Yn arferol, mae Comisiynydd y Met un ai wedi gweithio gyda’r Met neu yn dal i weithio â’r Met, a dw i’n meddwl y dylsan ni gael rhywun sydd â dim cysylltiad i’r Met.

“Mae angen rhywun sydd â diwylliant gwahanol i ddod mewn a newid pethau.”

‘Y Met ddim wedi ymddwyn yn ddiduedd’

“Dw i ddim yn meddwl bod y Met wedi delio â’r partïon yma [yn Downing Street] mewn ffordd ddiduedd,” meddai wedyn.

“Maen nhw wedi erlyn pobol gyffredin am gael partïon mewn llefydd eraill, ond dydyn nhw ddim wedi erlyn neb o’r Llywodraeth.

“Felly dydyn nhw ddim wedi ymddwyn yn ddiduedd ac mae’r cyhoedd wedi gweld hynny.

“O ganlyniad, mae hynny wedi effeithio ar hyder y cyhoedd yn y Met.

“Mae yno ddadl dros wahanu’r Met yn ddau, yr ochr blismona cenedlaethol maen nhw’n ei wneud a’r ochr, er enghraifft, diplomatic protection maen nhw’n ei wneud.

“Mae hefyd eisiau mwy o blismona cymunedol fatha mae gweddill y lluoedd yn ei wneud.

“Ond rydan ni hefyd wedi clywed yn y wlad yma am policing with consent, beth maen nhw’n ei feddwl gyda hynna ydi public consent, ynde.

“Ond mae’n edrych yn debyg i mi fod yr heddlu wastad wedi bod yn rhan o’r wladwriaeth, yr establishment.

“Felly dw i wedi bod yn dipyn o sgeptig os ydi os ydi’r policing with public consent yma erioed wedi bod yn real mewn ffordd – ac yn fwy fyth rŵan.

“Mae’r heddlu, ac yn enwedig y Met, wedi mynd yn fwy o ran o’r Llywodraeth a’r gwasanaeth sifil.

“O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn gallu ymateb yn ddiduedd ac mae hynny wedi effeithio ar hyder y cyhoedd ynddyn nhw felly.”