Mae Sefydliad y Galon Cymru yn galw am fynd i’r afael â chamdybiaethau am drawiadau ar y galon ymysg menywod ac anghydraddoldebau iechyd sy’n effeithio ar fenywod.
Mae ymchwil yn awgrymu bod menywod 50% yn fwy tebygol na dynion o gael diagnosis cychwynnol anghywir ar ôl trawiad ar y galon, gyda rhai cleifion yn cael camddiagnosis o orbryder neu bwl o banig.
Bob blwyddyn, mae 1,700 o fenywod yng Nghymru yn mynd i’r ysbyty o ganlyniad i drawiad ar y galon, ond yn ôl ymchwil Sefydliad y Galon Cymru, dydy pobol ddim fel pe baen nhw’n sylwi bod menywod mewn perygl.
Y gamdybiaeth hon sydd, o bosib, wrth wraidd y ffaith fod menywod yn fwy tebygol o gael camddiagnosis, meddai Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Sefydliad y Galon Cymru.
Yn ôl Gemma Roberts, mae camddiagnosis neu oedi mewn diagnosis yn effeithio ar y driniaeth a’r canlyniad ar ôl i rywun gael trawiad ar y galon, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i weld pam fod clinigwyr yn rhoi camddiagnosis i fenywod yn amlach na dynion.
‘Camddealltwriaeth cymdeithasol’
Mae Sefydliad Iechyd y Galon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Ddatganiad Ansawdd Iechyd Menywod sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau drwy godi ymwybyddiaeth, a sicrhau diagnosis amserol a thriniaeth deg.
Dangosodd arolwg gan Sefydliad y Galon Cymru mai dim ond 45% o bobol yng Nghymru wnaeth adnabod clefyd y galon fel un o brif achosion marwolaethau ymysg menywod yng Nghymru, a dim ond 7% o fenywod ddywedodd eu bod nhw’n hyderus iawn wrth adnabod symptomau trawiad.
“Rydyn ni’n meddwl mai camddealltwriaeth cymdeithasol nad oes yna risg i fenywod gael trawiad ar y galon sydd wrth wraidd hyn,” meddai Gemma Roberts wrth golwg360.
“Rydyn ni’n meddwl bod y camddealltwriaeth hwnnw’n bod yn y gymuned glinigol, yn ogystal ag o fewn cymdeithas yn ehangach.
“Pan mae menywod yn mynd at glinigwyr, mae’r camddealltwriaeth hwnnw’n golygu nad ydyn nhw’n meddwl yn syth bod menywod yn cael trawiad ar y galon.
“Fe wnaethon ni siarad â menywod a ddywedodd bod eu clinigwyr yn meddwl eu bod nhw’n cael pwl o banig hyd yn oed pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw hanes o gael pyliau o banig.”
Mae ymchwil Sefydliad y Galon Cymru yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o oedi cyn mynd am gymorth meddygol ar ôl cael trawiad ar y galon hefyd.
“Mae menywod yn oedi [mwy] cyn galw 999 a mynd i’r ysbyty,” meddai Gemma Roberts.
“Fe wnaethon ni siarad â chlaf o Ogledd Cymru ac roedd ganddi hi hanes o drawiadau ar y galon yn y teulu, ond pan gafodd hi symptomau trawiad ar y galon ei hun doedd hi ddim yn meddwl ei bod hi’n cael trawiad, roedd hi’n meddwl ei bod hi’n cael pwl o banig er nad oedd ganddi hanes o gael pyliau o banig o’r blaen.
“Ond fel cymdeithas, dydyn ni ddim wir yn meddwl bod menywod mewn risg felly pan mae menywod yn cael symptomau o drawiad ar y galon mae hi’n lot haws eu diystyru, gan fenywod a phobol o’u cwmpas nhw.
“Rydyn ni’n meddwl y gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r ffaith bod menywod yn tueddu i roi pobol eraill cyn nhw’i hunan, maen nhw’n tueddu i roi dyletswyddau a gofalu gyntaf.
“Mae meddwl am fynd i’r ysbyty yn isel ar eu rhestr blaenoriaethau, felly rydyn ni’n meddwl bod hynny’n debygol o fod yn rheswm arall pam mae menywod yn oedi cyn cael triniaeth.”
‘Problem ddyfnach’
Er mwyn mynd i’r afael â chamddiagnosis, mae Gemma Roberts yn credu bod angen sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus i glinigwyr.
“Dw i’n meddwl y bydd hynny’n help o ran derbyn y driniaeth orau hefyd, oherwydd mae menywod yn llai tebygol o dderbyn y driniaeth orau,” meddai.
“Byddai cael y datblygiad proffesiynol parhaus yna i glinigwyr fel bod pawb yn ymwybodol bod menywod mewn peryg o gael trawiad y galon yn bendant yn rhywle lle gallwn ni ddechrau.
“Ond dw i’n meddwl ei fod yn broblem ddyfnach na hynny, ac rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud ymchwil am pam bod menywod yn cael trafferth cael diagnosis amserol a diagnosis cywir.”
Mae gwaith ymchwil a gafodd ei ariannu gan Sefydliad y Galon yn dangos y gallai triniaeth gardiaidd deg fod wedi atal o leiaf 8,000 o farwolaethau ymysg menywod rhwng 2003 a 2013.
Adsefydlu cardiaidd
Mae Sefydliad y Galon Cymru yn galw am ddatblygu gwasanaethau adsefydlu cardiaidd (cardiac rehab) hefyd, gan fod yr ymchwil yn dangos mai nifer isel o fenywod sy’n cymryd rhan mewn adsefydlu cardiaidd.
Mae’r ymchwil yn dangos bod rhaglenni adsefydlu cardiaidd yn gallu cyflymu adferiad wedi trawiad ar y galon, a chefnogi canlyniadau gwell, meddai Gemma Roberts.
“Mae menywod yn llawer mwy tebygol o gael trafferth wrth gael mynediad at adsefydlu cardiaidd,” meddai.
“Mae’n bennaf yn digwydd wyneb yn wyneb ar y funud, ac rydyn ni wedi darganfod ei bod hi’n anodd i fenywod fynychu’r sesiynau yn aml.
“Dynion sydd mewn adsefydlu cardiaidd yn bennaf hefyd, felly mae hynny’n rhoi menywod off mynychu. Mae e’n eithaf intimidating gwneud yr ymarfer corff hwn mewn ystafell llawn dynion heb yr un ddynes arall.”
Creu datganiad ansawdd
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n creu datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod, meddai.
“Rydym yn creu datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n ystyried anghenion penodol menywod ac yn sicrhau bod diagnosis, triniaeth a gwasanaethau adsefydlu ar gael yn brydlon ac mewn modd cyfartal ym mhob agwedd ar ofal iechyd yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae gan Gymru ddatganiad ansawdd eisoes ar gyfer cyflyrau’r galon a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a byrddau iechyd i wella’r gofal i bobl sydd â chyflyrau’r galon.”