Mae rhwystrau’n wynebu cynlluniau i agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ne Sir Benfro gan fod y gost o’i hadeiladu yn uwch na’r disgwyl.
Cafodd y cais cynllunio ar gyfer Ysgol Bro Penfro, a fydd yn darparu addysg Gymraeg i 210 o ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed, ei gymeradwyo ddechrau mis Chwefror.
Y gobaith yw y bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar safle 3.3 hectar ar Bush Hill yn nhref Penfro, ddim ymhell o’r ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Harri Tudur.
Bydd y cytundeb adeiladu yn cael ei gynnig i gwmni Morgan Sindall Construction and Infrastructure Ltd, ond bydd rhaid disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer y datblygiad.
Mae’n debyg bod cost y cynllun bellach yn fwy na dwbl y gost a gafodd ei hamcangyfrif yn wreiddiol.
Fe wnaeth y Llywodraeth gytuno i ddarparu £6,650,780 yn wreiddiol, ond mae gofynion ychwanegol, chwyddiant yng nghostau adeiladu, a gwaith ychwanegol y bu’n rhaid ei wneud ar y safle wedi arwain at gynnydd o £7,335,039 yn y gost – sy’n golygu y bydd y cyfanswm bellach yn £13,985,819.
Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r cabinet yn ychwanegu bod y costau diweddaraf yn seiliedig ar raglen adeiladu fydd yn cychwyn ym mis Mai eleni, gyda disgwyl y bydd yr ysgol yn barod erbyn mis Medi 2023.