Mae gwasanaethau tân yn y gogledd wedi bod yn delio â digwyddiad ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon ers oriau man y bore.

Cafodd criwiau eu galw i dân yn uned Gwynedd Skip & Plant Hire yn nwyrain y stad am 01:57 fore heddiw (dydd Iau, 24 Chwefror).

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y tân yn ymwneud â gwastraff ailgylchu.

Fe wnaeth pedair injan dân fynychu’r digwyddiad, ac mae un yn parhau i fod ar y safle.

Roedd y gwasanaethau brys yn cynghori trigolion cyfagos i gau eu ffenestri er mwyn atal y mwg rhag eu gwenwyno.

Mewn diweddariad am 07:18 fore heddiw, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y tân wedi ei ddiffodd a bod criwiau “bellach yn tampio lawr.”

Dydyn nhw chwaith ddim yn gofyn i’r cyhoedd gadw eu ffenestri ynghau mwyach.