Bydd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn roi’r gorau i’w rôl ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn wedi bod yn arwain Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor ers 2007, pan oedden nhw ar y pryd yn wrthblaid yn y sir.

Yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2012, fe ffurfiodd Plaid Cymru glymblaid gyda chynghorwyr Llafur ac annibynnol, ac fe ddaeth y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn arweinydd ar y cyngor.

Hi oedd y fenyw gyntaf a’r aelod Plaid Cymru cyntaf i ddod yn arweinydd ar yr awdurdod lleol.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, bydd hi’n pasio’r awenau ymlaen i’r Cynghorydd Bryan Davies, a fydd yn arwain grŵp y Blaid o eleni ymlaen.

‘Wedi bod yn anrhydedd’

Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn wedi cynrychioli cymuned Ceulanamaesmawr ers 1999, gan sefyll mewn pum etholiad lleol.

Ond dydy hi ddim yn glir a fydd hi’n sefyll eto yn ei ward ar 5 Mai.

“Mae wedi bod yn anrhydedd arwain Cyngor Sir Ceredigion dros y ddegawd ddiwethaf, ac rwy’n hynod o falch o’r gwaith yr ydym wedi’i gyflawni mewn cyfnod heriol iawn,” meddai.

“Mae fy ffocws bob amser wedi bod ar wella bywydau trigolion Ceredigion; i wneud yn siŵr bod teuluoedd yn gallu cael addysg ragorol i’w plant mewn ysgolion o ansawdd da, i ddenu swyddi newydd, i hybu sgiliau pobol ifanc, ac i barhau â’n rhaglen fuddsoddi i gryfhau ein heconomi leol.

“Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r rhai yn ein gofal sydd ein hangen fwyaf, ac i helpu pobol ag anableddau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau annibynnol.

“Dyma’r pethau sy’n wirioneddol bwysig i’n cymunedau, a dyna’r rheswm pam eu bod nhw’n talu eu trethi i’r cyngor hwn.

“Hoffwn ddiolch i staff Cyngor Sir Ceredigion, ein sefydliadau partner, ac aelodau etholedig am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i wasanaethu trigolion lleol.

“Rwy’n ffodus i fod yn trosglwyddo’r awenau fel Arweinydd y Grŵp i gydweithiwr profiadol ac ymroddedig, ac edrychaf ymlaen at gefnogi Cynghorydd Davies yn ei rôl newydd.”

Y Cyng. Bryan Davies

Arweinydd newydd y Cyngor?

Mae’r Cynghorydd Bryan Davies wedi bod yn cynrychioli ward Llannarth ar Gyngor Sir Ceredigion ers 2012.

O ddydd i ddydd, mae’n ffermwr ac yn un o lywodraethwyr ysgolion cynradd Llannarth a Bro Sion Cwilt.

Ar hyn o bryd, mae’n Is-Gadeirydd ar Bwyllgor Rheoli Datblygu’r Cyngor.

Pe bai’r Blaid yn llwyddo i sicrhau mwyafrif, neu’n ffurfio clymblaid, y Cynghorydd Davies fyddai’r ail arweinydd Plaid Cymru yn hanes yr awdurdod lleol.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill cefnogaeth grŵp Plaid Cymru i fod yn Arweinydd y Grŵp ar ôl yr Etholiadau Lleol ym mis Mai,” meddai.

“Dan arweiniad Ellen, rydyn ni wedi cyflawni llawer yn ystod cyfnod heriol tu hwnt; o sicrhau buddsoddiad sylweddol i’r sir drwy Gytundeb Twf Canolbarth Cymru, i gyflawni un o’r cyfraddau ailgylchu gorau ar draws y Deyrnas Gyfunol a sicrhau bod ein system addysg yn parhau i gael ei hystyried ymhlith y mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

“Bydd fy arweinyddiaeth wedi’i gwreiddio yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan weithio gyda’n gilydd i ddysgu, rhannu, a datblygu dulliau arloesol newydd fydd yn creu newid gwirioneddol yn ein sir.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymgyrch etholiadol egnïol a chynhwysol dros y misoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu â phleidleiswyr a thrafod sut y gallwn sicrhau fod Ceredigion yn lle gwell fyth i fyw, gweithio, a mwynhau.”