Yn ystod cyfarfodydd diweddar Cyngor Bro Llanfairpwll bu cyfeiriadau at farwolaeth a chyfraniadau eang a sylweddol Alun Mummery a phenderfynodd y Cyngor y dylai teyrnged gael ei llunio i gofnodi hyn.
[Ganed Alun Wyn Mummery ar 3 Ebrill, 1942. Bu farw ar 22 Rhagfyr 2022.]
Daeth Alun yn aelod o’r cyn Gyngor Plwyf Llanfairpwll yn 1967 trwy etholiad. O Mai 1967 i Ragfyr 2022, felly, gwasanaethodd Alun yn ddi-dor am dros 55 mlynedd fel Cynghorydd Plwy a Bro.
Yr oedd Alun yn hynod selog yng nghyfarfodydd y Cyngor ac yn cymryd diddordeb ym mhob rhan o’r gwaith a dwy agwedd arbennig yr oedd yn eu mwynhau oedd yr ochor ariannol a Sul y Cofio. Anodd ydi crisialu ei gyfraniadau sylweddol dros gymaint o amser i faterion y Cyngor. Efo’i gof arbennig a’i bersonoliaeth ffraeth ac yn gweithredu un o’i hoff ymadroddion “Wrth eu gweithredoedd yr adnabyddir hwy” aeth ati i ddweud ond hefyd i wneud. Roedd y ffraethineb hwnnw a’i brofiad eang o fantais iddo fo a’r Cyngor fel ei gilydd. Ers blynyddoedd bu’n cyd-drefnu gwasanaeth Sul y Cofio; gwasanaeth undebol yng Nghapel Rhos y Gad ac yna wrth y Gofeb, ger Cloc y pentref.
Cafodd yr amryddawn Alun Wyn Mummery ei eni a’i fagu ym mhentre’ Llangaffo, Môn, ond yn 16 oed mudodd i Lanfairpwllgwyngyll. Bu dylanwad Capel Bethania, Llangaffo ar Alun fel y medrai yn sydyn ddod â dyfyniad o’r Beibl neu Emyn o’i go’. Priododd Gwyneth yn 1965 a chafwyd tri o blant, Lynne, Gareth a Catherine; a dilynodd wyrion a gor-wyrion.
Bu ambell swydd, yn cynnwys gyrfa chwarter canrif fel rheolwr storfa’r “Automobile Palace”, Llanfairpwll. Yna, yn 1988 cafodd ei swydd ddelfrydol yn casglu rhent ar ran y Cyngor – hel tai a hel straeon ’run pryd! Dyn pobl oedd Alun ac yn mwynhau clywed am eu hynt a’u helynt ac efo’i wên a’i natur gyfeillgar, a’i gof oedd fel gwyddoniadur, daeth i adnabod y tenantiaid – a’u hachau, a chynyddu ei storfa o straeon!
Dros y degawd diwethaf bu’n aelod o’r Cyngor Sir. Yn fuan wedi ymddeol fel Swyddog Tai, yn 2012 enillodd sedd fel ymgeisydd annibynnol mewn isetholiad i Gyngor Sir Ynys Môn ac ym mis Mai 2013 daeth yn gynghorydd Plaid Cymru yn Ward ‘Aethwy’. Yn 2017, efo’r Blaid yn rheoli mewn partneriaeth, daeth Alun yn ddeilydd Portffolio Tai ar y Pwyllgor Gwaith, swydd oedd yn ei siwtio i’r dim ac un a’i llenwodd yn hwylus hyd y diwedd. Cyfrannai’n gyson i drafodaethau a sylwodd Trefor Lloyd Hughes, ei ffrind oes a chyd-gynghorydd, “Os oedd pethau’n poethi mewn cyfarfod, roedd Alun yn dweud pethau allai dawelu’r dyfroedd.” Roedd ei wybodaeth o ardaloedd Môn a’i thrigolion yn hynod ddefnyddiol, yn ogystal â thestun adloniant i’w gyd-gynghorwyr.
“Mr Llanfairpwll” oedd y disgrifiad ohono gan lawer a hynny’n haeddiannol. Nid oedd llawer o weithgareddau yn y pentref heb i “Mumms” fod yn rhan ohonynt – pêl-droed, bowls – roedd newydd gael ei ethol yn deilwng iawn fel Llywydd y Clwb Chwist – diddordeb angerddol fel chwaraewr a threfnydd, Cyngor Bro, Cynghorydd Sir, Capel a’i Chymdeithas – bu’n Llywydd arni am nifer o flynyddoedd hyd ei farwolaeth, Llywodraethwr yr Ysgol, Tafarndai’r Tŷ Gwyn a’r Penrhos, a llawer mwy i gynnwys ymweliadau i’r Co-op ar fore Sadwrn, oedd yn dyblygu fel “syrjeri” cynghorydd – a hyd yn oed rhoi cyfweliadau i gwmnïau teledu rhyngwladol oedd eisiau dehongliad o enw enwog y pentre’.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon ond ei “hyfrydwch” oedd pêl-droed; ymunodd â thîm Llanfair fel chwaraewr yn 1958. Perswadiwyd Alun i ymuno fel Ysgrifennydd ac yno bu ers 1980. Yn ei dro, bu hefyd yn dirmon, codwr arian/nawdd, trefnydd y te, tacsi a rheolwr, yn absenoldeb y rheolwr a’i ddirprwy. Dangosodd ymroddiad heb ei ail. Ar ganmlwyddiant y Clwb yn 1997 cyflwynwyd medal gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru iddo am ei wasanaeth hir o 40 mlynedd i bêl-droed lleol; ia, chwarter canrif yn ôl! Bu Alun yn weithgar wrth sefydlu’r cae newydd ym Maes Eilian hefyd. Ymdrechai’n galed a mynnai lwyddo; gwireddai arwyddair ei annwyl Everton, dim ond y gorau wnaiff y tro.
Yn angladd Alun, dywedodd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, “Mae rhywun yn ystyried sut gafodd Alun gymaint o effaith arnom ni fel Grŵp Plaid Cymru – ein bod yn unedig er mwyn gwneud y gorau dros ein cymdeithas, ein cymuned, ein hynys a thros ein gwlad. A dyna’r hyn oedd Alun yn sefyll drostynt.” Yn 2017 anrhydeddwyd Alun gan yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn am ei gyfraniadau a’i ymrwymiad i Gymru, y Gymraeg ac i gymuned.
Cyfeiriodd Stephen Edwards, Cadeirydd Cyngor Bro Llanfairpwll, at galon drom wrth gyfeirio at farwolaeth Alun ychydig o ddiwrnodau cyn y Nadolig 2022.
Un o gymeriadau unigryw’r pentref, yr Ynys a chaeau pêl-droed Gogledd Cymru.
Mr. Mummery, Alun Mummery, Cynghorydd Mummery, “Mr Llanfairpwll” ond ‘Mumms’ i bawb ac ni fydd yna ddim un arall fel “Mumms”, o ran y person, ei gymeriad a phersonoliaeth a’i weithgarwch a chyfraniadau i’r pentref.
“Pethau di-werth yw geiriau ar adegau fel hyn ond pethau gwerthfawr ydi straeon a hanesion, a saff i chi, mae pob un ohonoch syn darllen hwn, gyda stori a hanes ddaw a gwên i’ch wyneb.” “Colled enfawr i ni i gyd yn y pentref.”
Dywedodd fod un gair i ddisgrifio Alun sef cymwynasgar.
Diolchodd iddo am ei berson, ei gymeriad, y gwaith, y blynyddoedd o wasanaeth, y gefnogaeth i bawb dros y blynyddoedd, ac yn wastad yna am sgwrs efo rhywun a rhoi cyngor i ni i gyd.
“Diolch am yr hwyl, storis, yr hanes.”
“Diolch ichi Mr. Mummery, Diolch ichi Mumms. Parch enfawr ichi.”
Yr ydym yn ffarwelio â chymeriad unigryw a hoffus. “Cwsg a gwyn dy fyd”.
[Lluniwyd y deyrnged gan y Cynghorwyr Stephen Edwards, John Roberts a Meirion Jones gyda chymorth sylwadau Llinos Medi, Trefor Lloyd Hughes, Wil Parry a’r Parch Geraint Roberts – Mawrth 2023. Mae’r deyrnged wedi’i hanfon at Bapur Menai hefyd.]